ar alluoedd diamheuol, galluoedd pe y'u hiawn lywodraethid, ac y'u hiawn gyfeirid bob amser, a hawlient iddo le o leiaf cyfuwch ag eiddo Whitefield neu Wesley fel arweinydd crefyddol. Ond yr oedd rhywbeth yn eisieu yn ei natur. Yr oedd yno ddiffyg cydbwysedd. Nid oedd y farn yn cyfateb i'r zel, na doethineb i'r brwdfrydedd. Wrth fynd trwy ei ddydd-lyfr gorfodir ni, er yn anfoddlon, i ddod i'r penderfyniad fod ei ysgrifeniadau, a'i hunan-ddarluniadau, yn aml yn bradychu basder (shallowness) ei natur; ac weithiau, mae lle i ofni, arwynebolrwydd cymeriad ac ansefydlogrwydd argyhoeddiadau. Petae wedi cael ei freintio â chydmar bywyd a wnai i fyny yn ei natur hi ddiffygion amlwg ei natur ef; petae, dyweder, Anne Williams, y Skreen, yn meddu cynheddfau naturiol Madame Griffith, Cefnanewlch; neu petae ef wedi cyfarfod â Madame Griffith cyn gweled o hono Anne Williams, mae yn bosibl, os nad yn debygol, y buasai ei holl hanes yn wahanol i'r hyn ydoedd. Ond nid felly y bu. Daeth Anne Williams yn wraig iddo, a Madame Griffith yn ddylanwad ar ac yn ei fywyd, ar adeg a than amgylchiadau a'i gwnai yn amhosibl hyd yn oed iddi hi ei wneud mwyach yr hyn a allasai efe fod dan amgylchiadau mwy ffortunus.
Mae gwrthgyferbyniad hynod rhwng hanes caru Whitefield ag eiddo Howell Harris. Ni bu erioed garwriaeth llai rhamantus na mwy matter-of-fact nag eiddo Whitefield; ni bu erioed un mwy cynhyrfus, un a apeliai yn amlach at deimladau dyfnaf y galon ddynol, na charwriaeth Howell Harris. Anadla bob gwedd o'r hanes y rhamant mwyaf byw; dengys pob tro ar lwybr y garwriaeth, brydferthion a syndra swynol. Ni bu'r un nofel fwy cynhyrfus, na'r un fugeilgerdd yn fwy deniadol, na stori carwriaeth Howell Harris ac Anne Williams. Rhamant pur, digymysg, o'r dydd y sibrydodd deimladau serch gyntaf i'w chlustiau, hyd y dydd y priododd hi yn unigedd Eglwys wledig Ystradffin, yw hanes caru'r ddeuddyn hyn. Da fuasai i'r ddau, a da fuasai i hanes crefydd yng Nghymru, pe hwn a fyddai unig Ramant Bywyd Howell Harris.