Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Diwygwyr Cymru.djvu/326

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y Methodist, byth briodi Etifeddes y Skreen. Ffurfiasant gynllwyn ar ol cynllwyn, ac un o'r rhai mwyaf addawol o honynt oedd cael press gang i orfodi Harris i fynd ymaith i ryfel,[1]—ond yn lle cymeryd Harris, cymerwyd ei was, Jimmy Ingram.[2] Trwy ddylanwad Erskine[3] llwyddwyd i gael Jimmy yn rhydd.[4] Yr oedd chwaer i Anne Williams yn briod â gwr Tynycwm, ac yno yn aml y caffai'r ddeuddyn ieuanc gyfle i gario ymlaen y cydgyfeillach oedd yn amhosibl yn un lle arall.[5] Mor llawn o'i garwriaeth oedd Howell Harris fel nid yn unig yr ysgrifennai'r holl hanes yn fanwl yn ei ddyddlyfr, ond adroddai'r hanes wrth bawb,—wrth ei fam weddw,[6] wrth ei gyd—lafurwyr ar faes y diwygiad,[7] wrth y brodyr yn y Gymdeithasfa,[7] ac hyd yn oed yn y Seiadau preifat.[8] Mor wahanol, onide, i Whitefield?

Wedi methu perswadio na dychrynu Anne Williams, ceisiwyd ei chywilyddio. Adroddwyd yr ystoriau mwyaf athrodus am dani.[9] Cyhuddid hi o aniweirdeb a llofruddiaeth,[10]—a dywed Howell Harris yr oll wrthym yn ei ddyddlyfr! Cysegrid y garwriaeth yn aml â gweddi,[10] ac yn lle stori garu, treulid yr oriau mewn ymddiddanion ar bynciau crefyddol,[10] canys yr oedd hithau erbyn hyn wedi derbyn argraffiadau crefyddol mor ddwfn a'r eiddo yntau.

Ar adegau ymddengys ei fod, yn y cyfnod hwn, fel mewn cyfnod diweddarach, wedi rhoi cymaint ffrwyn i'w deimladau fel mai o'r braidd y gellir ei ddal yn gyfrifol am yr hyn a ddywed. Credai nid yn unig fod amddiffyn yr Arglwydd drosto, ond ei fod ef mewn modd neillduol yn ffafrddyn arbennig yr Hollalluog.[11] Yr oedd holl amgylchiadau byd ac Eglwys yn cael, ac i gael, eu goruwchreoli i gyfarfod â'i amgylchiadau personol ef.[12] Yr oedd Duw nid yn unig wedi ffeindio gwraig iddo,[13] ond wedi trefnu'r amser[14] a'r lle[15] iddynt briodi, ac wedi darparu morwyn iddi hi ac yntau.[16] Cymerai yntau arno i wella gwaith yr Hollalluog drwy wneud y forwyn—y Chwaer Williams, o Lanfair Muallt,—yn athrawes yn yr Ysgol oedd ef yn mynd i godi yn Nhrefecca.[17] Amheuai weithiau, hefyd, a fyddai tymherau'r ddwy, y wraig a'r forwyn-ysgol-feistres—yn cyfateb i'w gilydd.[18] Yr oedd y Chwaer Williams wedi profi unwaith neu ddwy, gan nad faint o ddylanwad gras oedd yn ei chalon, ei bod wedi etifeddu cyfran helaeth o hyawdledd naturiol Efa.[19] O bosibl mai hyn a wnai i Harris bryderu, gan y gwyddai mor dawel a thyner oedd natur ei ddarpar-wraig. Yr oedd Duw, hefyd, i ddarparu ty iddynt i breswylio ynddo,[20] a dodrefn i'r ty,[21] ac i ddylanwadu ar nifer o bersonau gwahanol i ddarparu moddion cynhaliaeth iddo ef a'i wraig a'r teulu, os byddai teulu.[22] Rhoddai Duw iddo hefyd arweiniad ysbrydol i liwio gown ei wraig.[23] Dichon y dywedir mai arucheledd a pherffeithrwydd ffydd Howell Harris yn Rhagluniaeth, oedd hyn oll.

  1. Dyddlyfr 109, Mai 1, 1744; Eto, Mai 10, 11, 1744.
  2. Dyddlyfr 109, Mai 7, 1744.
  3. James Erskine, A.S., cyfaill Iarlles Huntingdon, awdwr "Law-Death, Gospel-Life," "Gospel Sonnets."
  4. Llythyr 377.
  5. Dyddlyfr 104, Hyd. 26, 1743; Hyd. 27, eto.
  6. Droion.
  7. 7.0 7.1 Dyddlyfr 109, Ebrill 20, 1744; Eto, Mai 19, 1744.
  8. Eto 104, Tach. 7, 1743.
  9. Dyddlyfr 110, Meh. 10, 1744.
  10. 10.0 10.1 10.2 Dyddlyfr 111, Meh. 12, 1744.
  11. Dyddlyfr 104, Tach. 10, 1743. Llu o gyfeiriadau eraill.
  12. Dyddlyfr 110, Meh. 6, 1744.
  13. Dyddlyfr 104, Tach. 6, 1743; Eto, Tach. 7; Dyddlyfr 110, Meh. 10, 1744.
  14. Dyddlyfr 110, Mai 24, 1744.
  15. 81 Eto.
  16. Dyddlyfr 111, Meh. 12, 1744.
  17. Dyddlyfr 104, Tach. 6, 1743, &c., &c.
  18. Dyddlyfr 106, Ion. 9. 1744.
  19. Dyddlyfr yn Llanfair Muallt.
  20. Dyddlyfr 110, Meh. 10, 1744; Eto, Meh. 12, &c.
  21. Dyddlyfr 110, Meh. 6, 1744.
  22. Eto.
  23. Dyddlyfr 120, Rhag 5, 1745.