pregethu, mewn teithio, mewn sefydlu Seiadau, a phob rhyw ran o'r gwaith, yn gymharol hysbys ini. Ond am ei gysylltiad â Lloegr ni wyddis gymaint. Wele fras linelliad o hwnnw.
Danghoswyd eisoes[1] mor agos oedd y cysylltiad rhwng y gyfundrefnaeth yng Nghymru a'r un yn Lloegr. Yn Lloegr daeth Harris gymaint dan ddylanwad y Morafiaid yn Fetter Lane ag y buodd Wesley neu Whitefield. Ymhen amser torrodd ef, fel hwythau, y cysylltiad hwnnw, gan daflu ei goelbren yn gyfangwbl gyda Whitefield yn y gwaith yn y Tabernacl. Yr oedd cysylltiad swyddogol Harris â'r gwaith yn y Tabernacl yn dyddio o 1741, dwy flynedd cyn sefydlu Cymdeithasfa Watford.[2] O'r cychwyn cyntaf ymddengys fod math o gystadleuaeth rhwng Cennick a Harris yn eu perthynas â'r Tabernacl. Wedi cynorthwyo Whitefield i sefydlu'r achos yn y Tabernacl, gosodwyd Harris i ofalu am yr achos yn absenoldeb Whitefield yn yr Ysgotland y flwyddyn honno (1741). Daliodd y swydd hon am bedwar mis, ac yna rhoddodd ffordd i Cennick.[2] Yn fuan wedyn cysylltwyd Thomas Adams gyda Cennick yng ngwaith y Tabernacl. O bosibl, er mwyn gofalu na chymerid mantais ar ei absenoldeb ef yng Nghymru, gyrrodd Harris ei gynorthwywr, Herbert Jenkins, hefyd i'r Tabernacl, ddaeth Whitefield yn ol o'r Ysgotland, trefnodd ef y gynulleidfa yn Seiadau a dosbarthiadau (bands), gan sefydlu hefyd ysgol rydd i blant tlodion mewn cysylltiad â chyfundrefn y Tabernacl[2]. Yn Awst, 1744, aeth Whitefield i'r America, gan adael Cadair y Gymdeithasfa yng Nghymru yn wag i Harris, a rhoi gofal y Tabernacl, a changhennau eraill y gwaith yn Lloegr, i Cennick. Anffodus a fu'r ddau benodiad. Cododd anghydfodau yng Nghymru, ac amheuon yn y Tabernacl. Yn yr olaf ffurfiwyd dwy blaid, eiddo Cennick ac eiddo Harris. Yr esgus a roddwyd oedd fod Cennick wedi gwyro at Forafiacth. Penderfynnodd Cennick ymneillduo, ond gan gofio ei rwymedigaeth i Whitefield, trefnodd i gael Harris i gymeryd gofal y Tabernacl yn ei le. Parhaodd ei berthynas â Whitefield yn gyfeillgar hyd ei farw yn 1755.[3] Yn Awst, 1744, pasiodd y Gymdeithasfa yn Llundain i alw Harris yno er ymgynghori ar gwestiwn mewn dadl rhwng Humphreys â gwyr y Tabernacl. Aeth pethau o ddrwg i waeth, hyd Rhag. 1745, pan gynhaliwyd Cymdeithasfa arall yn Llundain, pan gymerodd ymraniad ffurfiol, ond hollol gyfeillgar, le. Mynnai Cennick dorri ei gysylltiad â'r Tabernacl, a mynegodd Hammond, Goodwin, Thorn, Heatly, a Salmon, eu penderfyniad i gysylltu eu hunain ag ef. Adams a Herbert Jenkins yn unig o aelodau'r Gymdeithasfa honno, a daflasant eu coelbren gyda Harris.[4]1 Nid yn unig aeth mwyafrif aelodau'r Gymdeithasfa gyda Cennick, ond aeth nifer mawr o Seiadau drwy'r wlad hefyd ar ei ol. Canlynwyd hyn gan ymraniadau pellach, gan i amryw eraill o'r arweinwyr dorri eu cysylltiad â'r Tabernacl ac ymuno yn ffurfiol â'r Anibynwyr.[5] Gwelir fod y Saeson, y rhan fwyaf oll, yn awr yn troi eu cefnau ar gyfundrefnaeth Whitefield, gan adael cyfrifoldeb y Tabernacl yn gyfangwbl i'r Cymry, o dan arweiniad Harris. Bu pethau yn dra anrhefnus am rai misoedd, ond ym mis Mawrth, 1746, lwyddwyd i aildrefnu'r Seiadau, y dosbarthiadau, a holl fanylion dyrys gwaith eang y Tabernacl.