Dirwyid neu carcherid y neb nad elai i'r Eglwys,[1] a chosbid yn yr un modd y neb a bregethai heb gael trwydded gan yr Esgob. Cyfreithlonwyd y delwau, y croesau, y cerddoriaeth, y gwisgoedd offeiriadol, ac arferion Pabyddol eraill. Adolygwyd 42 Erthygl Edward VI., gan eu gwneud yn Ddeugain ond Un—fel y maent yn awr.[2] Er mwyn cario allan ddarpariadau'r ddeddf orthrymus hon, sefydlwyd Llys yr Uchel Ddirprwyaeth. Rhoddwyd i'r Llys hwn awdurdod na feddai unrhyw lys arall, ac yn 1583 gwnaed ef yn sefydliad parhaol. Anelai bodolaeth y Llys hwn at wraidd rhyddid gwladol yn ogystal a chrefyddol—ac felly unwaith yn rhagor cysylltwyd rhyddid gwladol a rhyddid crefyddol mor agos â'u gilydd, fel y gorfodwyd arwyr y naill ym mron o angenrheidrwydd i bleidio'r llall.
Nodiadau
- ↑ Swllt oedd swm y ddirwy. Na thybied y darllenydd mai dirwy ysgafn ydoedd-canys pris marchnad am ddafad oedd swllt yn y dyddiau hynny. Beth ddywedai ffermwyr Cymru heddyw pe y gorfodid hwy i roi dafad i'r offeiriad yn iawn am bob Sul na fyddent yn yr Eglwys?
- ↑ Mae yn deilwng o sylw fel arddangosiad o deimlad Elizabeth, iddi wrthod gwneud unrhyw gyfnewidiad yn y llithiau i gyfarfod â theimladau'r Protestaniaid. Ar y llaw arall, gadawodd allan o Lithiau Edward frawddegau oeddent yn anerbyniol gan y Pabyddion, megys er engraifft—"Rhag trawslywodraeth Esgob Rhufain a'i holl ysgelerderau ffiaidd, gwared ni Arglwydd daionus!"