Gwnaed hyn o wahaniaeth. Dyn cymharol ddinod oedd Gibbs; gwaharddwyd y Seiadau oll iddo ef. Yr oedd Herbert Jenkins yn wr rhy fawr a phoblogaidd iddynt wneud hynny âg ef; felly rhoddwyd caniatad graslawn iddo ef i bregethu eto i'r Seiadau "pe y gwahoddid ef gan y bobl," ar yr amod iddo "beidio ceisio creu ymraniadau yn eu plith."
Mae yn deilwng o sylw yma mai dylanwad Howell Harris yn unig, a berswadiodd y Gymdeithasfa i gymeryd y cwrs eithafol ac anghyfiawn hwn. Nid yw hynny'n amlwg, efallai, yn y cofnodion—ond yn ei ddyddlyfr dengys Harris ei galon yn fwy agored, a'i fod wedi hysbysu'r brodyr yn y Gymdeithasfa:—.
"Os yw'r Brodyr am i Jenkins aros (tan y delai Whitefield yn ol), ymneillduaf i, ac af yn ol i Gymru, ac ewch chwi ymlaen i drefnu ein lleoedd gyda'r Anibynwyr (settle all our Independent places); danghosais natur Anibyniaeth, a'r modd yr ymddengys i mi'n groes i natur Eglwys yr Hen Destament a'r Newydd, yn groes i'r dull a roddwyd i'r Eglwys yn y Gair, ac yn groes i'r ffordd yr arweiniodd yr Arglwydd nyni o'r cychwyn."[1]
Symia i fyny bechodau Herbert Jenkins fel hyn :—
1. Ei fod ers amser hir wedi cydnabod ei hun yn Anibynwr.
2. Ei fod wedi gadael symlrwydd ei gychwyniad, a theithio ffordd yr Anibynwyr wrth bregethu.
3. Ei galon wedi mynd atynt hwy, a datguddio'n cyfrinion iddynt.
4. Ei fod wedi ymrwymo i briodi â Dissenter!
Mae amddiffyniad urddasol Jenkins eto ar gael yn ei lawysgrif ei hun.
Ymhen deufis wedyn yr oedd Whitefield yn ol, ac yn llywyddu yn y Gymdeithasfa. Gwrthododd amlygu barn ar yr hyn a wnaed yn ei absenoldeb "tan y caffai amser i edrych o'i gwmpas, a chlywed pob ochr" i'r hanes.[2] Ond yr oedd pethau wedi mynd yn rhy bell. Nis gallai hyd yn oed Whitefield adfeddiannu ei hen awdurdod ac adfer trefn, heb droi Harris a'i gefnogwyr dros y drws. Ni chaniatai ei ysbryd addfwyn iddo wneud hynny. Gwell ganddo ymheddychu â'r ddau Wesley, golchi ei ddwylaw oddiwrth y Gymdeithasfa fel cyfundrefnaeth, a throsglwyddo'r holl awdurdod ynddi, ynghyd âg arolygiaeth y Tabernacl a'r Seiadau, a'r pregethwyr i ddwylaw Harris. A hynny a wnaeth.[3]
Yr oedd Harris yn awr wedi cyrraedd pwynt uchel—er nad yr uchaf—yn ei uchelgais. Mae'n amheus a fuasai wedi gwneud yr hyn a wnaeth—diarddel Jenkins a disodli Whitefleld,