Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Diwygwyr Cymru.djvu/334

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fel y ceisiodd yng Nghymru wneud â Rowlands, Llangeitho, a Williams, Pantycelyn,—oni bai am y dylanwad newydd a dieithr a ddaeth i'w fywyd—dylanwad Madam Griffith.

Dyma bennod ym mywyd Howell Harris sydd eto heb ei hysgrifennu; ac ni fwriedir yma ond rhoi cymaint o honi ag sy'n angenrheidiol i gywiro y camargraffiadau a adawyd gan ysgrifenwyr blaenorol, oeddent yn amlwg yn anhysbys o'r gwir amgylchiadau. Yr esboniad mwyaf caredig a ellir ei roi ar ymddygiadau Howell Harris, tra yn gweithredu o dan y dylanwad hwn,—ei ymddygiadau at ei fam oedrannus a'i wraig gariadus, at gyfeillion urddasol a noddwyr caredig fel Rowlands Llangeitho a George Whitefield, at y rhai a gredent yn ddiysgog ynddo, ac am hynny a'i canlynent, fel Beaumont a John Richards, mewn gair at bawb y deuai i gysylltiad â hwynt yr esboniad mwyaf caredig, meddwn, a ellir ei roddi ar yr oll, yw ei fod wedi dyrysu yn ei synhwyrau. Os gwrthodir yr eglurhad hwnnw ar ei ymddygiadau, yr unig ddewisiad yw ei gyhuddo, fel y gwnaeth ei gyfeillion agosaf, o'r anfoesoldeb mwyaf gwarthus. Tegwch âg ef yw dweyd, os dygir y ddedfryd hon yn ei erbyn, fod iddo yr hyn a elwir yn amgylchiadau lliniarol—mitigating circumstances—canys nis gellir darllen ei ddyddlyfrau yn y cyfnod poenus hwn, heb ddod i'r casgliad diamheuol, y rhaid ei fod naill ai yn rhyfygus o gableddus, neu ynte yn gweithredu yn ol yr hyn a dybiai efe oedd llais cydwybod. Mae holl hanes a rhediad ei fywyd yn gwneud y blaenaf yn amhosibl, a'r olaf yn sicr. Canlyn yr hyn a dybiai efe oedd y goleuni dwyfol, a wnai; gwelwn ni heddyw mai hud-lewyrn, jack-y-lantern, will-o'-the-wisp, ffug oleuni'r gors leidiog, beryglus, cynnyrch y mall-awyr a godai o ddyfnderau tywyll honno, ydoedd y goleuni hwnnw. Ond tybiai Harris mai goleuni o'r nef ydoedd. Tegwch hefyd â'r gwirionedd hanesyddol yw dweyd, os rhoddir yr esboniad caredicaf ar ei weithredoedd, sef ei fod wedi dyrysu yn ei synhwyrau,—yna, rhaid fod yr afiechyd wedi cartrefu yn ei ben, flynyddau cyn iddo erioed weled na chlywed son am Madam Griffith. Darllener