werthfawr yn ei golwg ac yn anwyl gan ei chalon cyn ei weled ond megys sorod.[1] Dro ar ol tro desgrifia Harris ei wraig fel yn cael ei meddiannu gan gythraul,[2]—pan nad oedd, mewn gwirionedd, ond yn cael ei llywodraethu gan deimladau naturiol calon gwraig gariadus. Nid oedd ei fam, ar y cyntaf, wedi ffafru ei briodas; ond cynhesodd ei chalon at ei merch-ynghyfraith anffodus, ac unodd y fam a'r wraig i ddylanwadu ar y mab a'r gwr i dorri'r cysylltiad andwyol, ond yn ofer.[3] Torrodd yr hen wraig ei chalon. Bu farw yn nechreu 1751, gan adael Anne Harris, druan, i gario'r baich ei hun heb gymorth câr na chyfathrach. Mor ddwfn oedd Harris wedi mynd erbyn hyn i'r gors ar ol ei hud-lewyrn, fel yr ysgrifenna yn ei ddyddlyfr fod marwolaeth ei fam "yn dechreu symud rhwystrau" oddiar y llwybr.[4]
Er mwyn canlyn y ffug—oleuni a lywodraethai ei fywyd, nid yn unig anghofiodd ei ddyledswydd i'w fam, nid yn unig dinystriodd gysur ei wraig, ond dewisodd dorri ei gysylltiadau anwylaf â'i gyfeillion ffyddlonaf. Rhybuddiwyd ef yn gyfeillgar gan Whitefield.[5]
Pan na thyciai hynny, dywedodd ei gyfaill enwog eiriau cryfach;[6] ac yn y diwedd eiriau a wnelai parhad cysylltiad Harris â Whitefield yn amhosibl, heb dorri am byth ei gysylltiad â Madam Griffith.[7] Aberthodd Harris Whitefield!
Yr un fu ei brofiad gyda Daniel Rowlands a'r efengylwyr eraill yng Nghymru. A'i chalon ar dorri, apeliodd Mrs. Harris at gyfeillion boreu oes grefyddol ei gwr, i ddefnyddio eu dylanwad arno. Gwnaeth Rowlands, Williams Pantycelyn, ac eraill, eu goreu, ond yn aneffeithiol. Yr oedd Harris wedi penfeddwi. Y dyb gyffredin—tyb a gymhellir i'n sylw gan ei haneswyr, dro ar ol tro, mewn anwybodaeth o'r gwir ffeithiau—yw mai ar bwnc o athrawiaeth y cymerodd yr ymraniad rhwng Harris a Chorff y Diwygwyr le. Anwireddir hyn gan holl hanes y cyfnod fel y'i hamlygir yn Nyddlyfrau Harris. Madam Griffith, ac nid pwnc o athrawiaeth mewn unrhyw Gyffes Ffydd, a achosodd y