rhwyg; neu, os mynnir dal ar eiriau yn unig,—os mai pwnc o gredo, ac o ffydd, a fu yn asgwrn cynnen, credo Howell Harris am, a ffydd Howell Harris yn, Madam Griffith, a achosodd yr ymraniad.[1] Wele grynhodeb byr o brif linellau hanes y cysylltiad hwn a dyma wir Ramant Bywyd Howell Harris, rhamant mwy cynhyrfus, ped ysgrifennid ef i gyd, na'r un nofel a ysgrifennwyd erioed!
Ar ei daith i'r Gogledd, yn 1747, y cyfarfyddodd Howell Harris gyntaf â Madam Griffith. Perthynai hi i deulu pendefigaidd y Wynniaid. A oedd a wnelai hyn rywbeth â gelyniaeth anghymodlawn Syr Watcyn Wynn at y Methodistiaid, ni chymeraf arnaf i ddweyd. Yr oedd wedi priodi â boneddwr o'r enw Griffith, yn perthyn i deulu pendefigaidd yn Sir Gaernarfon, a phreswylient yn Cefnamwlch, heb fod yn neppell o Aberdaron. Yr oedd iddynt fab, John, neu "Jacky," fel y geilw Harris ef, yr hwn a ddaeth i'r etifeddiaeth ar ol marw ei dad a'i fam.[2] Cawn ychwanegu am "Jacky" yn y man. Preswyliai Miss Wynn, chwaer Madam Griffith, yn Voelas Hall, Pentrevoelas; a threuliai Madam Griffith lawer o'i hamser yno, ac yng nghymydogaeth y Bala. Tebyg mai iddi hi (Madam Griffith) y perthynai etifeddiaeth Cefnamwlch; canys ar ol marw "Jacky," cawn y lle yn eiddo "Charles Wynne, o Bentrevoelas."[3] Nis gwyddis o dan ba amgylchiadau y daeth Harris i gysylltiad â Madam Griffith gyntaf, gan fod y dyddlyfr sy'n rhoi hanes ei daith hon—ac, yn wir, ei holl deithiau eraill i'r Gogledd—ar goll. Pe ceid o hyd i'r dyddlyfrau colledig hyn ceid, o bosibl, beth goleuni pellach, er nad llawer, ar yr hanes. Mae gennym fwy na digon wrth law i roi hanes canlyniadol y cysylltiad. Daeth Harris a hithau yn fuan ar delerau hynod o gyfeillgar. Ar y daith honno trwy Leyn aeth hi gydag ef, a chyflwynwyd hi ganddo i amryw o'r Seiadau.[4] Daeth 'w gyfarfod i Gymdeithasfa Llanfair Muallt yn nechreu 1749. Aeth gydag ef i Drefecca, ac arhosodd yno am rai dyddiau. Cryfhaodd ei
- ↑ Gallesid llenwi tudalennau â dyfyniadau o Ddyddlyfrau Howell Harris yn cadarnhau hyn. Nis gwn yr atebai unrhyw ddiben daionus i wneud hynny. Eithr os amheuir dim a ddywedir yn y bennod hon, mae'r tystiolaethau angenrheidiol i brofi pob gosodiad a wneir yma—ac ychwaneg—wrth law.
- ↑ Pennant's Tours in Wales, 1784 Edition, vol. ii. p. 200. Yn argraffiad 1810 (vol. ii., p. 385) camsillebir ef Cefn amlwch.
- ↑ Archeologia Cambrensis, III. Series, vol. v., p. 53.
- ↑ Dyddlyfr 136, Awst, 1749. Dichon mai nid allan o le fyddai dweyd eto, fod yn Nyddlyfrau Harris brofion o bopeth a ddywedir yn y bennod hon. Os bellach y gadewir allan y cyfeiriadau arbennig at y dyddlyfrau neillduol, dealled y darllenydd mai er mwyn arbed lle yn unig y gwneir hynny, ac nid am nad yw'r cyfeiriadau wrth law. Petae'r dyddlyfrau wedi cael eu cyhoeddi, byddai yn fanteisiol rhoi'r cyfeiriad am bob gosodiad. Ond gan nad ydynt, nis gellir, heb roi dyfyniadau helaeth iawn ohonynt, roi i'r darllenydd syniad cywirach o'u cynnwys ar y mater hwn, nag a geir yn y crynhodeb noeth yma o brif ffeithiau. Nid oes gennyf eto ond dweyd am y tro olaf, fod y dyfyniadau i gadarnhau pob gosodiad, gennyf wrth law. Ac os myn neb o haneswyr blaenorol Howell Harris amheu cywirdeb hyn, neu herio'r profion, parod fyddaf i gyhoeddi'r holl fanylion, yr hyn ni fynnwn heb hynny wneud.—B. G. E.