dylanwad arno yn ddirfawr yn ystod y flwyddyn honno. Truenus weithiau yw darllen ei sylwadau am ei deimladau,—y modd y mae pob teimlad o ddyledswydd yn ei dueddi at ei wraig, tra rhyw allu na fedr efe ei ddesgrifio, yn ei dynnu at ei gyfeilles. Ymwelai â hi yn Llundain, weithiau a'i wraig gydag ef, brydiau eraill hebddi. Whitefield oedd, o bosibl, y cyntaf i ganfod perygl ei gyfaill. Bu Rowlands, a'r brodyr yng Nghymru, yn hir cyn drwgdybio dim, er fod aml un o honynt yn anfoddlon gweled dynes yn eistedd gyda hwynt yn y Gymdeithasfa, ac yn cymeryd rhan yn y gweithrediadau. Yng Nghymru, y cyntaf i ganfod perygl posibl o'r cysylltiad, oedd gwragedd rhai o'r pregethwyr a'r cynghorwyr, â thai y rhai yr ymwelai Harris. Gyda'r treiddiad meddwl (intuition) sydd mewn dynes yn aml yn cymeryd lle, ac yn rhagori ar, resymeg, canfyddai aml un o'r rhai hyn mai dylanwad niweidiol a gaffai'r cysylltiad ar Harris. Cwyna, yn ei ddyddlyfr, fod y gwragedd hyn megys wedi newid eu natur; tra'r oeddent gynt yn dyner, gostyngedig, ac ufudd i'w gwyr, eu bod yn awr wedi troi yn drahaus, gan draws arglwyddiaethu awdurdod yn y teulu—gyda'r canlyniad fod y gwyr yn eu tro yn oeri ato ef, ac yn ei wrthwynebu.
Cyd-deithiai'r ddau ar hyd a lled y wlad, am ddiwrnodiau, weithiau wythnosau o'r bron. Cydymwelent â'r Seiadau, cydeisteddent yn y Gymdeithasfa. Deborah oedd hi, a Barak yntau, i waredu Israel Duw. Yr oedd hi yn ysbrydoledig gan Dduw i'w gyfarwyddo a'i nerthu ef. Hi oedd ei "fraich," ei "lygad," a'i "oleuni" ef. Gweithredai ymhob dim o dan, ac yn ol, ei chyfarwyddid hi. Yr oedd hi yn feddiannol ar ysbryd proffwydo,—a rhagfynegodd iddo droion yr hyn oedd ar gymeryd lle. Dyna'r darlun a dynnir ganddo ef o'i galluoedd hi. I ni, sy'n edrych heddyw drwy awyrgylch wedi ei chlirio gan yr hyn a ddaeth ar ol hynny, mae'n amlwg nad oedd y "rhagfynegiad" o bethau i ddyfod a roddodd hi iddo, yn ddim amgen na'r hyn y gallai unrhyw ddynes o amgyffredion cryf Madam Griffith, weled heb oleuni goruwchnaturiol proffwydes.
Ond credai Harris yn ddiysgog ynddi, ac yn ei danfoniad gan Dduw i'w arwain a'i nerthu ef. Dysgodd hi ef i gredu mai efe oedd dewisedig y Nef i fod yn Ben y Diwygiad. Gan wybod nas gellid disgwyl i rai fel Whitefield a Rowlands í blygu iddo, dysgodd ef, hefyd, i gredu nad oedd hawl gan neb ond Duw a'r Brenin i'w alw i gyfrif;—ac nid oedd neb ond Duw a Harris, neu, yn hytrach, Harris a Duw, i'w galw hithau i gyfrif. Eb efe:—
Nid oes neb i'm llywodraethu i, nac i'm gyrru nac yma nac acw, nac i'm dysgu na'm ceryddu, ond yr Arglwydd ei hun. Ni welais hyn cyn heddyw, er fod Madam Griffith wedi dweyd wrthyf; ac am dani ei hun, hefyd, nad oedd hithau i fod yn ddarostyngedig i neb ond myfi, ac nad oedd neb arall i'w cheryddu. Arweinid fi, hefyd, i ddweyd hyn (yn y Seiad mae'n debyg), ac yn arbennig yma, fy mod yn cael nad oes gan neb awdurdod arnaf fi, ond Duw a'r Brenin. A heddyw cefais dystiolaeth ei fod yn rhyngu bodd i'r Arglwydd imi hysbysu hynny i'r eneidiau, fod Duw ei hun wedi'm gosod yno. Teimlais fy enaid yn dyrchafu yn uwch, ac i fwy o ryddid nag o'r blaen oddiwrth ysbrydion isod, ac nad wyf gyfrifol i neb, ond mewn dull brawdol; ac arweiniwyd fi i ddangos hyn yn Llanfair Muallt, a Threfecca, ac yma (Goetre); gan hysbysu hefyd fod fy ysbryd yn barod i foddloni yr iselaf a'r gwannaf a ddel mewn ysbryd gostyngedig ataf, gan gydnabod fy swydd. Eithr pe byddai i Mr. Whitefield, Wesley, Rowlands, a'r holl Fethodistiaid, godi mewn ffordd o awdurdod i'm ceryddu, tröwn arnynt, gofynnwn iddynt, 'Pwy a roddodd i chwi yr awdurdod hwn?' ac yna awn at fy ngwaith."[1]
- ↑ 180 Dyddlyfr 139, Tachwedd 28, 1749.