Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Diwygwyr Cymru.djvu/339

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Dyma engraifft o ugeiniau o gyfeiriadau o gyffelyb natur a geir yn ei ddyddlyfrau. A chofier fod hyn wedi cael ei ysgrifennu o fewn naw mis wedi i Madam Griffith ymddangos gyntaf yn y Gymdeithasfa, a thros ddwy flynedd cyn iddo dorri ei gysylltiad a'r Methodistiaid. Ac yn ystod yr amser hwnnw, cryfhau o ddydd i ddydd ac o wythnos i wythnos, a wnai ei dylanwad hi arno.

Dyddorol, er nad efallai adeiladol, a fyddai olrhain effaith ei dylanwad hi ar ei feddwl. Deffrodd—neu yn hytrach symbylodd a chadarnhaodd—ei uchelgais. Os nad i'w dylanwad hi arno y rhaid priodoli ei ymddygiad yn diarddel Herbert Jenkins,[1] i'r dylanwad hwnnw yn ddiameu y rhaid priodoli ei ymgais llwyddiannus i ddisodli Whitefield yn y Tabernacl, a'i ymgais aflwyddiannus i drawsfeddiannu'r awdurdod ar y Gymdeithasfa yng Nghymru; a phan fethodd yn hynny, ei ymgais cyfartal afwyddiannus i sefydlu cyfundrefnaeth gydymgeisiol a'r Seiadau Methodistaidd. Denodd Beaumont, ac ychydig eraill, i'w ganlyn i'r llwybrau troellog hyn. Ceisiodd dynnu Cennick yn ol oddiwrth y Morafiaid. Gwnaeth ei hun yn Bab, a sefydlodd Madam Griffith fel Dehongles Meddwl yr Arglwydd, i'r rhan o'r frawdoliaeth a lynai wrtho. Pan geisiodd wneud ufudd-dod di gwestiwn i orchymynion Madam Griffith, a ffydd ddiysgog yn ei hysbrydoliaeth uniongyrchol, a'u hanffaeledigrwydd hi ac yntau, yn amod aelodaeth o'r Gymdeithasfa, bu hynny yn ormod i hyd yn oed Richard Tibbott ei lyncu,—a throdd yntau ei gefn. Mae yn nodweddiadol o Harris, nid yn unig yn y cyfnod hwn, ond drwy ei holl hanes o'r dechreu, mai nid efe oedd ar fai. "Gwahanwyr" (separatists) oedd Rowlands Llangeitho, a Williams Pantycelyn, a'u cydweithwyr, yn awr, fel yr oedd Edmund Jones a David Williams ddeng mlynedd cynt, a William Edwards a brodyr y Groeswen yn y canol rhwng y ddau gyfnod. Cyhudda Rowlands o fod yn "eilun," a'r rhai na fynnent ganlyn Madam Griffith, ond a aent ar ol Rowlands, o fod yn "gwyro oddiwrth y goleuni, ac yn troi cefn ar yr Arglwydd."

Ond yr oedd gwedd arall na'r un ysbrydol yma ar y cysylltiad. Bwriadai Harris a Madam Griffith briodi. Gwir fod gwraig ganddo ef, a gwr ganddi hithau. Ond yr oedd yr Arglwydd yn teyrnasu. Ac mewn gweledigaeth nos hysbysodd angel yr Arglwydd i bob un o'r ddau, iddi hi ynghyntaf ac iddo yntau wedi iddi hi ddweyd wrtho, fod yr Arglwydd i symud pob rhwystr; fod Mr. Griffith a Mrs. Harris i farw yn fuan; fod Mrs. Griffith a Howell Harris i briodi, ac i gael eu dyrchafu i safle uwch mewn awdurdod a dylanwad nag y buont erioed. Ond rywsut, ni chyflawnodd yr angel y tro hwn ei addewid. Gwir i wr Madam Griffith farw, ond rywsut gadawyd i wraig Howell Harris fyw tan y symudwyd Madam Griffith ei hun i fyd arall. Cydnebydd Harris, gyda gofid, mai camgymeryd llais rhyw un arall am lais angel yr Arglwydd, a wnaeth efe yn yr amgylchiad hwn.

Ond i ba ddiben yr olrheinir manylion yr hanes hwn ymhellach? Symier i fyny weddill yr hanes mewn ychydig eiriau. Rhoddodd Madam Griffith ofal "Jacky" ei mab bychan, i Harris. Mynnai yntau ddysgu'r bychan yn ei gredo ef. Trodd ei gwr Madam Griffith dros y drws. Daeth Whitefield at Harris, ac yn enw yr Arglwydd, gorchymynnodd iddo dorri ei gysylltiad â Madam Griffith, yr hon, ebe gwr Duw, oedd yn ddynes ddrwg. Atebodd Harris drwy fynd a hi i Drefecca, a gorfodi ei wraig i roi rhan o'r ty i fyny iddi. Ceisiodd Rowlands a Williams Pantycelyn, ddefnyddio eu dylanwad arno; ac atebodd hwynt drwy ddweyd eu bod yn pechu yn erbyn Duw wrth ei gymhell i'w rhoi i fyny. Diarddelwyd ef gan y Gymdeithasfa; a'i ateb oedd cymeryd ei ferch fechan ei hun oddiwrth ei mam, a'i rhoi yngofal Madam Griffith. Cododd

  1. ↑ Tudal. 314.