Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Diwygwyr Cymru.djvu/34

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD III.
SER Y BOREU.

Cododd ser y boreu yn ffurfafen hanes crefyddol ein gwlad cyn toriad gwawr gobaith rhyddid. Yn y bennod o'r blaen sylwyd na fuasai'r anghydwelediad rhwng y Llys Brenhinol a'r Protestaniaid, efallai, wedi cyrraedd y fath eithafbwynt oni bae fod cynifer[1] wedi gorfod treulio blynyddoedd teyrnasiad Mari ar y Cyfandir. Ond yno daethant i gyffyrddiad â, ac o dan ddylanwad Protestaniaeth gryfach, iachach Luther a Calvin. Yr oedd gelyniaeth y rhai hyn i Babyddiaeth yn llawer ffyrnicach nag eiddo Protestaniaid egwan Prydain.

Ac eto, flwyddyn cyn esgyniad Mari i'r orsedd yr oeddent wedi ennill iddynt eu hunain oddefiad o dan y ddeddf yn Germani.

Pan gyrhaeddodd y ffoaduriaid o Brydain i'r Cyfandir, ymgynhullasant at eu gilydd, a chynaliasant gyfarfodydd crefyddol yn eu hiaith eu hunain mewn gwlad estronol. A dyma ddechreuad Ymneillduaeth Lloegr.

Pan ddychwelasant i'w gwlad eu hunain ar esgyniad Elizabeth i'r orsedd, yr oeddent wedi magu mwy o asgwrn cefn nag, o bosibl, a wnaent pe yr arhosent yn eu gwlad eu hunain. Felly disgwylient fwy o ryddid gan Elizabeth nag ydoedd hi yn barod i ganiatau iddynt. Cafodd y Frenhines ei hun mewn safle hynod rhwng y ddwy blaid. Ar y naill law gwrthododd yr Esgobion Pabyddol gadw eu hesgobaethau ar draul cydnabod Penarglwyddiaeth y Teyrn yn lle'r Pab; ac ar y llall gwrthododd yr Esgobion a'r Clerigwyr Protestanaidd ddychwelasant o'r Cyfandir, dderbyn yr esgobaethau hynny ar draul defnyddio y defodau Pabyddol a fynnai Elizabeth eu cadw. Ym mhlith y rhai hyn yr oedd yr enwog Miles Coverdale,

  1. Dywedir fod wyth cant o glerigwyr wedi ffoi i'r Cyfandir i ddianc rhag llid Mari.