Seiadau a Chymdeithasfa ar wahan i'r Methodistiaid. Pan welodd nad oedd llawer o lewyrch ynddynt, penderfynnodd sefydlu Teulu Trefecca, ar linellau y sefydliadau Morafaidd. Ond tuagat wneud hynny yr oedd yn rhaid adeiladu yn helaeth. Ymgynghorodd â'r Arglwydd drwy Madam Griffith, a thynnwyd allan gynllun o'r ty. Yna, gan weithredu ffydd yn Nuw,—a chan ymddibynnu ar gyfoeth Madam Griffith—dechreuwyd y gwaith o adeiladu. Pan fu farw Mr. Griffith, cymerodd Harris ofal holl drefniadau'r claddu. Yr oedd hyn Chwefror 14eg, 1752. Cyflymwyd y gwaith o adeiladu yn fwy wedyn. Yn Ebrill aethant i Lundain. Yno cymerwyd hi yn glaf. Ysgrifennodd ei llythyr olaf ato ganol Mai. Mae hwnnw ar gael yng nghasgliad Trefecca (Rhif 684a). Ymhen pythefnos wedyn, sef y dydd olaf o Fai, 1752, bu hi farw.
O hynny allan tynnodd Harris yn nes at ei wraig. Ond yr oedd y rhwyg rhyngddo a'i hen gyfeillion wedi mynd yn rhy bell i feddwl am ad-undeb. Am rai blynyddau bu byw mewn neillduedd, gan ymgyflwyno i'r gwaith o sefydlu'r "Teulu" ar sylfaen gadarn a pharhaol. Ymhen amser ymunodd â'r milisia, a gwnaed ef yn gadben yn y rhan honno o'r fyddin. Gan efelychu Cadbeniaid Cromwell, pregethai i'w filwyr, ac i'r cyhoedd ymhob tref y teithiai ei gatrawd trwyddi. Wedi dychwelyd i Drefecca, ail ymaflodd yn ei waith fel pregethwr, gan fynd yn ol i'w symlrwydd cyntefig cyn cweryla o hono gyda na Bedyddiwr nac Anibynnwr. Pregethai yn nghapeli'r ddau. Gan anghofio'r hen ddolur, estynnodd Whitefield iddo ei ddeheulaw, a chylymwyd ef gyda'r ddau Wesley, a Whitefield, a'r Iarlles Huntingdon, yn y gwaith o efengylu fel cynt. Wedi gwisgo ymaith beth o chwerwedd yr hyn a fu gynt, daeth eto i gysylltiad achlysurol â'r hen gyfundrefnaeth yn yr hon yr oedd Rowlands a Williams Pantycelyn yn arwain, ac ambell i weinidog Anibynnol yn gweithio mor selog ag erioed. Ym mis Gorffennaf, 1773, bu farw, ymhen tair blynedd ar ol ei wraig ffyddlon. Claddwyd y ddau yn ymyl bwrdd y Cymun yn Eglwys Talgarth, yn yr hon y gosodwyd maen coffa iddo. Gweddus oedd hyn o barch i goffadwriaeth gwr a fu yn Eglwyswr selog, cyson, ac ymgyflwynedig ar hyd ei oes. Dichon petae wedi bod yn llai o Ddiwygiwr, y buasai wedi cyrraedd safle uwch yn yr Eglwys; sicr yw petae wedi bod yn llai o Eglwyswr, y buasai wedi cyrraedd safle uwch fel Diwygiwr.