Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Diwygwyr Cymru.djvu/349

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

trwydded i'r ty na'r pregethwr. Yna gwysiodd yr ymosodwyr y Methodistiaid am gynnal cyfarfod anghyfreithlon! Nis gallai'r Dirprwywyr ymyrryd yn yr achos hwn, gan y gwrthodai'r Methodistiaid godi trwydded.

Ceisiwyd ymddwyn yn gyffelyb at Lewis Rees, Llanbrynmair. Yr oedd Lewis Rees yn "Fethodist" selog a gweithgar, a thybid y gellid ei erlid ef yn ddiberygl. Ymosodwyd arno yn Sir Drefaldwyn. Ond heblaw bod yn "Fethodist," yr oedd Lewis Rees yn weinidog gyda'r Anibynwyr,—ac yn drwyddedig fel y cyfryw. Cymerodd y Dirprwywyr ei achos mewn llaw, a buan y gwelodd yr erlidwyr nas gellid yn ddiberygl ymosod ar "Fethodist" o Anibynnwr.

Yn Tregoy atafaelwyd ar eiddo Ymneillduwr dan Ddeddf y Cyrddau. Cymerwyd y mater i fyny; gorfodwyd yr ustus a arwyddodd y papur, i dalu holl gostau'r achos, i dalu i'r Ymneillduwr lawn gwerth yr eiddo a atafaelwyd, ac i ddychwelyd iddo yr hyn oedd heb ei werthu.

Ceisiwyd erlid Caleb Evans, y Bedyddiwr, yn Llys yr Esgob, yn 1739, am gadw ysgol yn Pontypwl. Pan welodd yr awdurdodau Eglwysig fod y Dirprwywyr yn mynd i ymladd yr achos, gadawsant i'r peth syrthio i'r llawr.

Ceisiodd clerigwyr godi tâl ar Ymneillduwyr am briodasau a weinyddid mewn plwyfi eraill, ac am gladdu ym mynwent y capel. Amddiffynnwyd yr achosion, ac enillwyd y gyfraith. Mewn un amgylchiad gwrthododd offeiriad briodi pâr ieuanc, am mai Bedyddwyr oedd eu rhieni. Aethant i blwyf arall i'w priodi. Pan ddaethant adref, hawliodd yr offeiriad ei dâl am seremoni a wrthododd gyflawni! Gwrthodwyd talu. Aeth a'r achos i Lys yr Esgob,—ond pan gymerodd y Dirprwywyr y mater i fyny, tynnodd yn ol.

Yng Nghaerfyrddin (1749), Meirion (1763), a Threfaldwyn (1764), erlynnwyd gweinidogion Anibynnol am fedyddio plant eu haelodau, a cheisiodd yr offeiriad godi tâl ar y rhieni am y bedydd. Cymerodd y Dirprwywyr y mater mewn llaw; enillwyd y gyfraith—ac mewn rhai amgylchiadau gorfodwyd yr offeiriad i dalu'r costau.

Yn Sir Fon ymosodwyd ar weinidog Ymneillduol tra yn bedyddio, yn 1783; yn Beaumaris ar un arall yn 1785; ac yn Llanfyllin yn 1787. Cymerodd y Dirprwywyr y mater i fyny, a da oedd gan yr ymosodwyr ymostwng a derbyn eu telerau.

Ym Maesyfed (1743), Môn (1763), Meirion (1770), Brycheiniog (1791), Gwrecsam (1798), gwrthododd yr Ustusiaid roi trwyddedau naill ai i gapeli neu i bregethwyr yr Ymneillduwyr. Cymerodd y Dirprwywyr yr achosion i fyny, a gorfodwyd yr Ustusiaid i gydffurfio â'r gyfraith.

Yn Llanfigan yn 1764, gwrthododd yr offeiriad gladdu plentyn, am mai gweinidog Ymneillduol a'i bedyddiodd. Gorfodwyd ef i wneud ymddiheurad i'r rhieni.

Gwelir wrth yr engreifftiau uchod, mor angenrheidiol oedd gwaith y Dirprwywyr, ac mor ymdrechgar a llwyddiannus a fuont wrth ei gyflawni. Ond yn awr, gwynebwyd Ymneillduwyr Cymru a Lloegr gan gwestiwn mawr a phwysig—sef,