cyfieithydd y Beibl i Harri; John Knox (yr hwn drwy rym anhyblyg ei egwyddorion a ddaeth yn frenin anghoronedig Ysgotland); a John Fox, awdwr "Llyfr y Merthyron." Ychydig, os dim, Cymry a gawn eto ym mhlith y dychweledigion hyn yn meddu digon o asgwrn cefn i ddewis yn hytrach ddioddef adfyd am egwyddor na chael mwyniant swydd dros amser.
Yn nyddiau Harri, ac Edward, a Mari, Pabyddiaeth a Phrotestaniaeth oedd y ddau allu gwrthwynebol. Eithr yn awr yr oedd cyfansoddiad y byddinoedd wedi newid i gryn raddau. Protestaniaid y gelwid y ddwy fyddin; ond Protestaniaid swyddogol yn proffesu rhith Protestaniaeth tra yn gwadu ei grym hi, oedd un; a Phrotestaniaid gwirioneddol, yn mynnu cael y peth yn ogystal a'r enw, oedd y llall. O dipyn i beth daeth y Diwygwyr hyn oeddent am buro yr Eglwys, i gael eu galw yn Buritaniaid. Gwrthdystio yn erbyn Pabyddiaeth fel ffug grefydd, a wnai'r Protestaniaid; gwrthdystio yn erbyn ffug-Brotestaniaeth a wnai'r Puritaniaid. Tyfodd Protestaniaeth yn naturiol i fod yn Buritaniaeth; a dadblygodd Puritaniaeth yn yr un modd i fod yn Anghydffurfiaeth,—ac wedi hynny yn Ymneillduaeth. Gwrthwynebu awdurdod y Pab oedd y garreg filltir gyntaf ar daith Protestaniaeth i gyfeiriad Ymneillduaeth; troi ymaith oddiwrth athrawiaethau Pabyddol oedd yr ail; ymwrthod âg arwyddion allanol y ddefodaeth Babyddol oedd y drydedd. Ni fwriadai Harri VIII. fynd yn mhellach na'r garreg gyntaf; dymunai Edward deithio hyd yr ail; chwenychodd Mari fynd yn ol i'r hen lwybr oddiar yr hwn y trodd ei thad; mynnodd Elizabeth fynd fel Harri hyd y garreg filltir gyntaf a dim cam ym mhellach; awyddai'r Puritaniaid weled yr Eglwys yn cyrraedd y drydedd filltir.
Felly cawn yn awr y Llys a'r Esgobion wedi cyrraedd y garreg filltir gyntaf, a'r Puritaniaid wrth y drydedd; ac yn y canol rhwng y ddwy safai corff y bobl heb wybod beth i wneud, a llawer o'r clerigwyr a ddymunent deithio tua'r drydedd, ond a ofnent lid y Frenhines. Ac nid heb achos