Cwestiwn Rhyddhad yr Athraw. Yr oedd y Pregethwr Ymneillduol yn rhydd i bregethu, ond nid oedd yr Athraw Ymneillduol yn rhydd i ddysgu'r plant. Wele rai o'r deddfau mewn grym yn eu herbyn pan fu Howell Harris farw.
Ni chaniateid i neb i ddysgu plant os na arwyddai rai o Erthyglau Eglwys Loegr, ac os na feddai drwydded o dan law'r Esgob (Canon 77).
Yr oedd unrhyw Ysgolfeistr a fyddai am fis heb fynd i'r Eglwys, ac na feddai drwydded Esgob, yn agored i garchariad am flwyddyn, a'r neb a'i lletyai, yn agored i ddirwy o £10 y mis (23 Eliz. c. 1).
Yr oedd unrhyw ysgolfeistr a gadwai Ysgol Gyhoeddus neu breifat, neu a ddysgai blant mewn unrhyw dy preifat, heb feddu trwydded oddiwrth Esgob, yn agored i garchariad am dri mis am y trosedd cyntaf, a thri mis am bob trosedd cyffelyb, a thalu dirwy o £5 (13 and 14 Chas. II., c. 4).
Gosodid cosbau trymion ar Ymneillduwyr a weithredent fel athrawon, os na fynychent yr Eglwys yn rheolaidd (17 Chas. II., c. 2).
Flwyddyn cyn marw Howell Harris, penderfynnodd yr Ymneillduwyr ymladd brwydr ddiorffwys, tan y ceid yr Athraw, fel y Pregethwr, yn rhydd. Ddechreu Mawrth, 1772, daeth dirprwyaeth, yn cynnwys y Parchn. Mr. Prichard, Dr. Furneaux, a Dr. Stennett—yn cynrychioli y tri enwad, Anibynwyr, Presbyteriaid, a Bedyddwyr, at y Pwyllgor canolog i'w cymhell i gymeryd mesurau er gwella Deddf Goddefiad, drwy
(a) Ryddhau pregethwyr Ymneillduol o orfod arwyddo Erthyglau'r Eglwys; a
(b) Rhyddhau'r Athraw Ymneillduol o bob rhyw gosb am ddysgu plant.
Cydsyniodd y Pwyllgor yn unfrydol, a dechreuwyd ar y gwaith o drefnu byddin Ymneillduaeth. Cafwyd 882 o weinidogion a phregethwyr Ymneillduol yng Nghymru a Lloegr, i hyrwyddo'r mudiad hwn.
O'r rhai hyn yr oedd 125 yng Nghymru,—oll yn Anibynwyr a Bedyddwyr, heb gymaint ag un Methodist Eglwysig yn eu plith. Ond ceid Methodistiaid Ymneillduol, fel Lewis Rees, a Richard Tibbott, a William Edwards, Groeswen, oeddent yn weinidogion Anibynnol yn ogystal a Methodistiaid, yn ymladd ochr yn ochr a hen wroniaid gwleidyddol fel Miles Harri, Pontypwl. Profa hyn nad oedd y Methodistiaid Eglwysig mewn cydymdeimlad a'r Ymneillduwyr Gwleidyddol; ond nid am nad oeddent yn teimlo dyddordeb mewn gwleidyddiaeth, canys cwyna Howell Harris ei bod yn rhy ddrwg fod y Llywodraeth, oedd o dan y fath rwymau i Fethodistiaid Cymru am eu cefnogaeth gwleidyddol, yn gwrthod nawdd y gyfraith i'w cefnogwyr hyn, os na broffesent eu hunain yn Ymneillduwyr.