Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Diwygwyr Cymru.djvu/354

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn y bennod ddiweddaf. Ni chaniata gofod imi roi'r manylion yma, ond cawn restr o'r Eglwysi a rhif yr aelodau yn llawn ganddo am Sir Fynwy a Sir Gaerfyrddin, tra'r ystadegau'n anghyflawn yn y lleill.

Ym Mynwy rhifai cynulleidfaoedd arferol (those that usually attend) Capeli'r Bedyddwyr 2600, Anibynwyr 2400,[1] Cyfanrif 5000.

Yng Nghaerfyrddin eto, Bedyddwyr 1500; Anibynwyr 7340; cyfanrif 8840; yn gwneud cyfanrif y ddwy sir yn 13,840, neu dros ddwbl cyfanrif holl aelodau'r Seiadau Methodistaidd o 1742 hyd 1752.

Danghoswyd eisoes y modd yr oedd y Bedyddwyr wedi gweithio yn gyfundrefnol drwy eu Cymanfa. Nid oes gennym hanes o weithrediadau Cymanfaoedd yr Anibynwyr, ond mae gennym sicrwydd hanesyddol fod y gweinidogion Anibynnol, yn gynnar yn y 18fed ganrif, wedi sefydlu Cwrdd Chwarter rheolaidd mewn amryw rannau o Gymru.[2] Am fanylion eraill am gynnydd yr enwad, gwel y Mapiau a'r Dangosluniau. Am y Bedyddwyr, mae gennym ystadegaeth fanylach.

Cyfyngwyd eu gweithrediadau ar y cyntaf i'r De. Dechreuasant feddiannu'r Gogledd yn 1779, ac o'r flwyddyn honno ymlaen mae eu cynnydd yn y Gogledd yn amlwg iawn. Ar y dechreu, fel y gwelwyd, boddlonwyd ar un Gymanfa Gyffredinol i Gymru. Yna rhanwyd hi yn ddwy, ac wedyn yn dair, tra erbyn 1805 yr oeddynt mor lluosog yn y Gogledd nes y ffurfiwyd tair Cymanfa i'r Gogledd yn unig. O 1790 hyd 1799, derbyniwyd drwy fedydd yn unig 5359, neu yn agos cynifer a holl aelodau holl Seiadau Methodistaidd Harris a Rowlands a ffurfiwyd mewn deng mlynedd yng ngwres mwyaf y Diwygiad. O 1800 hyd 1810 bedyddiwyd 7438; o 1810 hyd 1820, 8839; ac o 1820 hyd 1830, 16,222.

Ceir cyffelyb ffeithiau dyddorol am y Methodistiaid. Dylid cofio, yn y cysylltiad hwn, ddau neu dri o bethau.

1. Fod yr elfen Ymneillduol yn y Gymdeithasfa, o ran ei haelodaeth, yn raddol yn lleihau, a'r elfen Eglwysig ynddi yn cynhyddu, mewn rhifedi, fel y pellheid oddiwrth y Diwygiad cyntaf.

2. Fel canlyniad, o bosibl, i hynny, yr oedd y Gymdeithasfa yn myned yn fwy offeiriadol.

3. Ond er mai Eglwysig ac Offeiriadol oedd yr aelodaeth, Ymneillduol oedd yr egwyddor a enillai nerth o'i mewn.

Tuedd naturiol y galluoedd o'i mewn, felly, oedd gwthio'r

  1. Ymhlith yr Eglwysi "Anibynnol" a nodir yn y rhestri swyddogol hyn, cawn enwau Mynyddislwyn, a'r New Inn, ym Mynwy, a'r Groeswen, ym Morgannwg, a hawlir gan awdwr Y Tadau Methodistaidd fel Eglwysi'r Methodistiaid.—B. G. E.
  2. A Vindication of the Conduct of the Associated Ministers in Wales, 1771