Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Diwygwyr Cymru.djvu/36

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yr ofnent, canys yr oedd digofaint Elizabeth, pan enynnid ef, yn waeth nag eiddo ei thad na'i chwaer. Wedi pasio Deddf Unffurfiaeth, penododd Ddirprwyaeth i fynnu gweled fod y ddeddf yn cael ei chario allan—ac fel esboniad ar y ddeddf cyhoeddodd nifer o gyfarwyddiadau manwl i'w chlerigwyr a'u deiliaid,[1] a gwnaed gweddio yn y teulu yn waeth trosedd na meddwi yn y dafarn.

Profodd Elizabeth, fel eraill o'i blaen ac ar ei hol, mai "rhwyddach dweyd 'mynydd' na mynd drosto." Y mae erlid bob amser yn creu rhagrithwyr ac nid credinwyr. Cafodd Elizabeth wrthwynebiad a chymorth gan yr esgobion.[2] Gwrthwynebent bob diwygiad yn yr Eglwys o du'r Frenhines ac o du y Puritaniaid. Cadwasant hwy, a chorff y clerigwyr, eu swyddi, er yn anghytuno â gwaith Elizabeth. Canlyniad ei gorthrwm hi felly oedd, cau allan y Pabyddion egwyddorol ar y naill law, a'r Puritaniaid egwyddorol ar y llall; felly delid y rhan fwyaf o'r swyddi eglwysig gan ddynion nad oeddent yn meddu egwyddorion dyfnion o gwbl.

O gwmpas cwestiwn y gwisgoedd, yn bennaf, yr ymladdwyd brwydr fawr Puritaniaeth y dyddiau hynny. Y rhai hyn oedd y graig rwystr i'r clerigwyr a ddaethant yn ol o'r Cyfandir wedi marw Mari.[3] Cofier mai nid yn erbyn y gwisgoedd

  1. Ym mhlith y cyfryw ceid a ganlyn:—Ni chai clerigwr briodi heb ganiatad ei Esgob a dau Ustus heddwch, ac ni chai Esgob briodi heb ganiatad yr Archesgob a'r Dirprwywyr; anghymeradwyid a chosbid gweddi ddirgel a theuluaidd,—modd y gellid cael pob addolwr o'r tu fewn i furiau'r Eglwys ar yr hon yr oedd hi yn Ben.
  2. "The Act of substituting our present Ecclesiastical Establishment for the Popish ones which preceded it was passed with the dissent of all the Bishops, and therefore the style of Lords Spiritual' is omitted throughout the whole."—(Blackstone's Commentaries, Bk. i. Chap. 2, Note.)
  3. Dywed Grindal, a wnaed wedi hynny yn Archesgob Caergaint: "Alf the Bishops who had been abroad, on their return dealt with the Queen to let the matter of habits fall." Dywed Hallam: "Except Archbishop Parker, and Cox, Bishop of Ely, all the most eminent Churchmen, such as Jewell, Grindal, Sandys, Nowell, were in favour of leaving off the surplice, and what were called the Popish ceremonies." Hyd yn oed yn y colegau, lle yr arferid gwisgoedd athrofaol, gwrthwynebid y gwisgoedd offeiriadol. Gomeddodd Esgob Hooper osod y wisg am dano wrth gael ei gysegru. Gwrthwynebid y gwisgoedd ar yr un tir gan Latimer, Ridley, Cranmer, Taylor, Philpot, Bradford, ac eraill yn nyddiau Mari.