Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Diwygwyr Cymru.djvu/42

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

rhai hyn ddigofaint cyffredinol, a gwnaed defnydd mawr o'r wasg, drwy gyhoeddi llyfrau a phamffledau i wrthdystio yn eu herbyn. Yn yr un flwyddyn cafodd Elizabeth gan ei Chyngor i gyhoeddi deg o erthyglau eraill yn anelu yn uniongyrchol at fywyd Anghydffurfiaeth. Yr oeddent yn ddigon craffi ganfod mai'r blaid a allai gael meddiant o'r plant fyddai'r blaid a feddiannai'r bobl yn y genhedlaeth ganlynol. Felly gorchymynwyd i'r Esgobion i holi yn ddyfal ynghylch pob ysgolfeistr yn ei Esgobaeth "modd y gellir symud y cyfryw nad ydynt iach." Cymhwysid y gorchymyn hwn at bob ysgolfeistr, ai cyhoeddus ai preifat. Aed ym mhellach fyth, gan orchymyn i'r Esgobion i holi pa fodd y dygid plant yr Anghydffurfwyr i fyny. Nid yn ddiwrthwynebiad y pasiwyd y rheolau hyn. Gosododd y gwladweinydd galluog Cecil, Arglwydd Burleigh, ei wyneb yn gadarn yn eu herbyn.[1] Yn cael eu cefnogi ganddo ef tynnodd Ty'r Cyffredin ddeiseb allan yn 1584 yn gwrthdystio yn erbyn gormes yr Esgobion. Atebwyd y ddeiseb mewn ysgrif hir gan yr Archesgob, yn yr hon y dywedai fod "y Ddeiseb yn ymddangos yn tueddu at y cyfryw benrhyddid a diddymiad cyfreithiau, ac yn gymaint perygl, fel nas gellid ei oddef nac yn yr Eglwys na'r Wladwriaeth, fel y bydd nid yn unig yn parhau ond yn ychwanegu at y Sism a'r ymraniad sydd yn ein plith eisoes." Desgrifiai y ddeiseb—yn yr hon ni wnaed ond yn unig geisio amddiffyn hawliau cyffredin y bobl—fel "Deiseb Anuwiol."

Ac yn y ffurfafen dywell yna y llewyrchai goleuni clir Ser Boreu Ymneillduaeth Lloegr—y Puritaniaid y cyfeiriasom atynt eisoes.

Nodiadau

  1. Dyma'r modd y cyfiawnhaodd yr Archesgob Whitgift ei hun yng ngwyneb gwrthwynebiad Burleigh:—
    "I am fully persuaded that my manner of proceeding against these kind of men is both Lawfull, usuall and charitable, neither can I devise how otherwise to deale to worke to any good effect. It is the only thing wherein your Lordship and I do differ. Not severity but lenity hath bred this Schisme in the Church. . . The accusation of severity is the least thing I feare."—(The Roger Morrice MSS., vol. i.)