Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Diwygwyr Cymru.djvu/43

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD IV.
RHAGFLAENWYR GWAWR CYMRU.

Hyd yma am Hanes y Diwygiad yn Lloegr yr ydym wedi bod yn siarad, a hynny am y rheswm syml nad oedd y Diwygiad eto wedi dechreu amlygu ei hun yng Nghymru. Ond bellach deuwn yn nes adref, er y bydd yn rhaid dweyd llawer eto am Loegr, ei gwaith, a'i gweithwyr, mewn cysylltiad a'r hyn a wnaed o'r diwedd yng Nghymru.

Elizabeth, yr hon a wnaeth gymaint o niwed yn Lloegr, a gynhyrchodd foddion y Diwygiad yng Nghymru. Er mwyn cael y trechaf ar y Pab, a phwysleisio'r ffaith fod Eglwys Loegr yn hollol anibynnol ar Eglwys Rufain, ceisiodd wneud yr Eglwys mor nodweddiadol Seisnig ag oedd modd, ei gwneud mewn geiriau eraill, yn Eglwys arbennig i drigolion ei gwlad. Tuag at sicrhau hyn, ffafriodd ledaeniad pellach y Beibl, a hynny yn iaith y bobl. Felly yn Saesneg yn lle'r Lladin y dygwyd yr holl wasanaeth ym mlaen yn yr Eglwysi.

Erbyn hyn yr oedd rhai o'r Cymry hefyd wedi dechreu deffro o'r cysgadrwydd oedd wedi eu cadw gyhyd yn rhwym mewn segurdod a thywyllwch. Y wasg fu yn foddion i ddechreu deffro cenedl y Cymry—ac mae'r wasg wedi bod byth er hynny yn uchel ei bri yn y wlad.

Y pryd hwn Cymraeg oedd iaith gyffredin y genedl o Gaergybi i Gaerdydd, ac o Lanandras i Dyddewi. Ceisiodd Harri VIII., mae'n wir, ladd iaith ei dadau. Yn un o adrannau Deddf yr Uniad<ref>27 Henry VIII., cap. 26.</ref a wnaeth Gymru'n un a Lloegr, darperid fod holl weithrediadau pob llys yng Nghymru i gael eu cario ymlaen yn Saesneg; ac os defnyddiai unrhyw swyddog yn y llys yr iaith Gymraeg wrth gyflawni ei ddyledswyddau yno, collai ei gyflog. Gwelir mai