Mae yn dra thebyg mai yn y Coleg yn Rhydychain y cafodd droedigaeth, canys yno daeth i gysylltiad â dylanwadau John Hooper, Alexander Nowel, John Jewel, ac eraill oeddent wedi Protestaneiddio y Brifysgol honno. Am ei Brotestaniaeth gorfu iddo, yn nheyrnasiad Mari, fynd ar ffo. Dyry Ioan Pedr ini ddarlun tarawiadol o'r Cymro ieithgar mewn ystafell gudd yn y Cae Du, Llansannan, wrth y gwaith o gyfieithu'r Testament.[1] Prydferth iawn yw'r darlun, ond mae lle i ofni mai dychymyg ac nid ffaith yw; canys os bu ar ffo, yn nyddiau Mari y bu. Nid oes amheuaeth na fu Salesbury yno yn llechu, ac o bosibl yn ysgrifennu llawer—eithr yn nheyrnasiad Elizabeth y cyfieithodd y Testament trwy orchymyn Elizabeth,
- ↑ "Yr oedd yn yr hen dŷ dair ystafell ar y llawr a dwy i fyny, heblaw y seler a grybwyllasom eisoes, a'r ystafell fechan enwog yn y simdde, lle y dywedir i Salesbury gyfieithu y Testament. Yr oedd hyd yr adeilad drosto tua 72 o droedfeddi, a'i lled rhwng y muriau tua 14 o droedfeddi. Cymerai yr ystafell gyntaf tua 9 troedfedd o'r hyd, ac yn hon nid oedd le tân, ond gorweddai yn lled ddwfn yn y ddaear. Y nesaf, neu y ganol, oedd y brif ystafell, yr hon a fesurai tuag 16 troedfedd o hyd, ac ynddi yr oedd yr aelwyd a'r simdde. Gwahanid y ddwy ystafell hyn gan fur cerryg yn cyrraedd i'r nen. Nid oedd un llofft ar yr ystafell gyntaf, ond yr oedd un oddiar y ddwy arall, ac un fechan hefyd wedi ei ffurfio yn y simdde rhwng y fantell, neu y palis oddiar y fantell, a'r mur terfyn, ac uwch ben yr aelwyd. Yr oedd y llofft oddiar y gegin fawr felly yn llai na'r gegin o led y simdde. Nid oedd un drws i fyned o'r brif lofft i'r un fechan a ddarluniwyd, ac nis gallasai neb feddwl fod yno un ystafell o gwbl. Yr unig ffordd i fyned iddi oedd drwy ddringo i fyny y simdde, a dyma'r fath le oedd y ddirgelfan, neu gysegr fel y gellid yn briodol ei alw, lle y cyflawnwyd y gwaith santaidd a roddodd y fath enwogrwydd arno."—(Enwogion y Ffydd, cyf. i., tud. 44.)Cafwyd ystafelloedd o'r fath yn dra gwasanaethgar mewn amser o erlid cyn ac ar ol hyn. Ynddynt cafodd Ymneillduwyr y ganrif ganlynnol noddfa ddiogel rhag eu gelynion dro ar ol tro.
Forwyn, os cusanwn ac y llyfwn yn ddefosiynol draed eu saint (canys felly y galwant eu delwau), ac os taenellwn fy hun â dwfr rheibiedig (conjured), ac os dygwn y pennyd ofergoelus a osodid arnaf gan fy— pa'r un a ddywedaf, gelyn ynte tad?—ysbrydol; yna, meddaf, yr oeddwn ar y fath delerau â Duw, fel y tybiwn ac y credwn yn gadarn fy mod wedi cyflawni fy nyledswydd yn llawn tuagato, er na alwaswn un— waith i gof haeddiannau marwolaeth Crist i foddloni a dyhuddo cyf— iawnder, am yr holl droseddau a phechodau a gyflawnaswn, a'm buchedd ddrygionus drwy fy mywyd yn flaenorol."—(The Baterie of the Popes Botereulx commonly called the high altare, &c.)