Prawfddarllenwyd y dudalen hon
ac felly nid oedd angen iddo fod ar ffo nac ynghûdd y pryd hwnnw. Nid i Salesbury ei hun y rhoddwyd y gorchymyn hwn, ond i'r Esgobion Cymreig;[1] ond yr oedd Salesbury wedi hir
- ↑ Wele eileb lawn o'r comisiwn brenhinol yn awdurdodi gwneud y cyfieithad:—Yn gymaint nad ydyw yr iaith Saesneg yn ddealledig gan y nifer fwyaf a'r luosocaf o ddeiliaid anwylaf ac ufudd ei Mawrhydi, ag sydd yn preswylio o fewn tiriogaeth a gwlad ei Huchelder yng Nghymru, yr hon nid yw ran fechan o'r deyrnas hon, y rhai gan hynny ydynt yn llwyr amddifad o Air santaidd Duw, ac ydynt yn aros yn y cyffelyb, neu yn hytrach mewn mwy o dywyllwch ac anwybodaeth nag yr oeddynt yn amser y grefydd Babaidd. Bydded yn ddeddfedigFod i Esgobion Henffordd, Ty Ddewi, Llanelwy, Bangor, a Llandaf, a'i holynwyr, gymeryd y fath drefn yn eu plith eu hunain er iechyd eneidiau y praidd a gyflwynwyd i'w gofal yng Nghymru. (1) Fod i'r holl Feibl, yn cynnwys y Testament Newydd a'r Hen, ynghyda'r Llyfr Gweddi Gyffredin, a gweinyddiad y Sacramentau, a arferir yn awr o fewn i'r deyrnas hon yn y Saesneg, gael eu cyfieithu yn wirioneddol a chywir i'r iaith Frytanaidd neu Gymraeg; (2) ac fod i'r unrhyw, wedi eu cyfieithu felly, ar ol eu hystyried, eu darllen a'u cymeradwyo, ganddynt, gael eu hargraffu i'r fath rifedi, o leiaf, fel y byddo i un o bob math fod ar gyfer pob eglwys gadeiriol, eglwys golegawl a phlwyfol, a chapel anwes, cyn y dydd cyntaf o Fawrth, ym mlwyddyn ein Harglwydd, un mil pump cant a thri ugain a chwech; (3) ac o'r dydd hwnnw allan, fod yr holl wasanaeth dwyfol i gael ei arfer a'i ddywedyd gan y curadiaid a'r gweinidogion trwy yr holl esgobaethau dywededig lle yr arferir yr iaith Gymraeg yn gyffredin, yn yr iaith Frytanaidd neu Gymraeg ddywededig, yn y fath fodd a ffurf ag a arferir yn awr yn yr iaith Saesneg, ac heb wahaniaethu dim mewn un dull na ffurf oddi wrth y llyfr Seisnig; (4) am y llyfrau hynny, a argreffir felly, bydd i blwyfolion pob un o'r plwyfau dywededig dalu un hanner neu ran, a pherson neu ficer pob un o'r plwyfau dywededig (lle byddo'r ddau) neu ynte un o honynt, lle nad oes ond un, dalu yr hanner neu y rhan arall; (5) fod i brisiau y llyfrau hynny gael eu penodi a'u gosod gan yr esgobion dywededig, a'u holynwyr, neu gan dri o honynt o leiaf; (6) yr hyn bethau, os bydd i'r dywededig esgobion, ne'u holynwyr, eu hesgeuluso, yna bydd i bob un o honynt fforffedu i'w Mawrhydi y Frenhines, ei hetifeddion a'i holynwyr, y swm o ddeugain punt, i'w codi oddiar eu da a'u heiddo."II. Bydded yn ddeddfedig ymhellach trwy yr awdurdod dywededig fod i bob gweinidog a churad trwy yr esgobaethau rhagddywededig, lle yr arferir yr iaith Gymraeg yn gyffredin, o wyl y Sulgwyn nesaf hyd y rhagddywededig ddydd o Fawrth, yr hwn fydd yn y flwyddyn un mil pum cant a thriugain a chwech, ar bob amser cymundeb gyhoeddi a darllen yr Epistol a'r Efengyl am y dydd yn yr iaith Gymraeg, i'w blwyfolion ef neu hwy ymhob un o'r eglwysi neu'r capelau dywededig; ac hefyd fod iddynt, un waith o leiaf bob wythnos, ddarllen a chyhoeddi i'w plwyfolion dywededig yn yr eglwysi dywededig Weddi'r Arglwydd, Erthyglau'r Ffydd Gristionogol, y Deg Gorchymyn, a'r Litani, fel y maent yn cael eu gosod allan yn yr iaith Saesneg, yn yr iaith Gymraeg ddywededig, gydag unrhyw ran arall o'r Llyfr Gweddi Gyffredin a'r Gwasanaeth Dwyfol a benodir gan esgob yr esgobaeth ar y pryd."III. Fod i un llyfr yn cynnwys y Beibl, ac un arall o'r Llyfr Gweddi Gyffredin, yn yr iaith Saesneg, i gael eu prynu a'u cadw ymhob eglwys