Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Diwygwyr Cymru.djvu/47

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddeisyf am fod i'r gwaith gael ei wneud.[1] Mae'n debyg mai'r Dr. Richard Davies a ymgymerodd â chwilio am wŷr cymhwys i wneud y cyfieithiad.[2] Mae'n debyg i'r gwaith o gyfieithu'r Testament gael ei rannu rhwng yr Esgob Davies, Salesbury, a Huet.[3] Cyflwynodd Salesbury'r gwaith gorffenedig i'r Frenhines mewn llythyr nodweddiadol sy'n taflu cryn oleuni ar sefyllfa Cymru yn yr oes honno.[4] Teg yw ychwanegu yma

    trwy Gymru lle ceir y Beibl a'r Llyfr Gweddi Gyffredin trwy awdurdod y Ddeddf hon (os nad ydynt yno eisoes) cyn y dydd cyntaf o Fawrth, yr hwn fydd ym mlwyddyn ein Harglwydd Dduw, un mil pum cant a thriugain a chwech; (2) ac fod i'r cyfryw lyfrau aros yn, y cyfryw leoedd cyfleus o fewn i'r eglwysi dywededig, fel y dichon y rhai a fedrant eu deall gyrchu ar bob amserau cyfleus i'w darllen a'u chwilio. Ac hefyd, fel y gallo y rhai na ddeallant yr iaith ddywededig, trwy gymharu y ddwy iaith â'u gilydd, gyrraedd yn gynt wybodaeth o'r iaith Saesneg; gan eithrio, er hynny, pa beth bynnag sydd yn y Ddeddf hon i'r gwrthwyneb."

  1. Mae'r Dr. T. C. Edwards yn galw sylw at yr hyn a ddywed Salesbury ei hun ar hyn yn ei Plain and Familiar Introductio, lle y cawn hyn:— "Gwelwch y modd y gwrandawodd trugaredd Duw ar fy hir ddymunedig ddeisyfiad (my long desired petition)"—ac yna cyfeiria at roddiad y ddeddf yn penodi'r comisiwn. (Trans. Liverpool Welsh National Society, p. 54. First Session.)
  2. Dywed Syr John Wynne i'r Esgob Davies "alw ato William Salesbury, o'r Plas Isa, ger Llanrwst, yn Sir Ddinbych, ac amryw Gymry ereill, ysgolheigion dyfnddysg ac ieithyddwyr medrus, a chyfieithasant y Testament Newydd, y Salmau, a'r Llyfr Gweddi Gyffredin, i'r Gymraeg (Hist. Gwydir Family, p. 93). Ond yr unig un heblaw Salesbury a alwyd at y gwaith oedd Thomas Huet, Cantor Ty Ddewi.
  3. O'r tri, Salesbury wnaeth fwyaf. Cyfieithodd ef o Matthew hyd 2 Thessaloniaid; 2 Timotheus; Titus a Philemon; 1, 2, a 3 Ioan; a Judas. Cyfieithodd yr Esgob 1 Timotheus, Hebreaid, a Iago. Cyfieithodd Huet Lyfr y Datguddiad.
  4. Wele gyfieithad o'r cyflwyniad a ddyfynnaf o Fywyd ac Amserau'r Esgob Morgan, gan Charles Ashton:—
    "I'r Rinweddolaf a'r Ardderchocaf Dywysoges Elizabeth, trwy ras Duw Brenhines Lloegr, Ffrainc, a'r Iwerddon, Amddiffynnydd y Ffydd, &c.
    Pan alwaf i gof agwedd lygredig crefydd yn Lloegr, pan boblogid Mynwent St. Paul yn y ddinas gan wneuthurwyr delwau o alabaster i'w gosod i fyny mewn eglwysi; a hwythau yn Paternoster Row yn ennill eu bywoliaeth yn unig trwy wneuthur gleiniau'r Pader; a hwythau yn Avelane trwy werthu gleiniau Mair; a hwythau yn Creed lane trwy wneuthur gleiniau'r Credo; yn gystal a'r defodau ofer a ymlusgasant i'n gwlad ninnau, sef Cymru, pryd, yn lle y bywiol Dduw, yr addolai dynion ddelwau meirwon o goed a cherryg, clychau ac esgyrn, gyda lluaws o greiriau eraill nas gwn yn iawn beth i'w galw: a phan ystyriaf hefyd ein gwrthgiliad cyffredinol diweddar oddiwrth Air santeiddiolaf Duw a dderbynasid i'w waith, a'n bod yn clywed yn ddyddiol am yr orfodaeth a osodir