fod dau Gymro dysgedig, Dr. Gruffydd Roberts a'r Dr. Rhosier Smyth, oeddent Babyddion, ac a giliasant i'r Cyfandir ar esgyniad Elizabeth, wedi gwneud eu rhan mewn gwlad dramor i chwyddo llenyddiaeth eu cydgenedl gartref. Cyhoeddasant rhyngddynt amryw lyfrau, y mwyaf adnabyddus o'r rhai yw Y Drych Cristionogawl. Gwasanaethodd eraill yn y deffroad llenyddol Cymreig hwn a ragflaenodd y deffroad crefyddol sydd gennym yn bennaf dan sylw; a gellir nodi, wrth fyned heibio, Humphrey Lloyd a Dafydd Powel, D.D., a gyhoeddasant lyfrau tra dysgedig yn ymwneud â hanes y Cymry.
ar ein brodyr mewn gwledydd tramor, y rhai a ddioddefasant drallodau mawrion, cystuddiau chwerwon, ac erledigaethau didrugaredd; o dan y rhai y mae amryw eto yn aros; nis gallaf lai, O Dywysoges fwyaf Cristionogol a Phenadures raslonaf, na gwneuthur fel y gwnaeth y truan Bartimeus ddall, neu'r gwahanglwyfus o Samaria, i'n Hiachawdwr ; felly yr wyf yn ymostwng wrth draed eich Mawrhydi, gan ymgrymu yn isel, nid yn unig drosof fy hun, ond hefyd am waredigaeth llawer mil o'm cydwladwyr oddiwrth ddallineb ysbrydol, anwybodaeth, a ffiaidd haint hen eilunaddoliaeth ac ofergoeledd, gan gydnabod yn ostyngedig a dyladwy eich daioni digyffelyb i ni trwy ganiatau i ni gael yr Ysgrythyrau Santaidd (yr unig feddyginiaeth a gwaredigaeth rhag ein dallineb ysbrydol a'n gwahanglwyf) yn yr iaith, y gwyddom oreu am dani; y rhai can belled ag y deallaf, ni fuont erioed (er i wir grefydd flodeuo ym mhlith ein hynafiaid, yr hen Frythoniaid) mor gyflawn a chyffredinol yn ein plith ag ydynt yn awr, i Dduw y byddo'r diolch.
Anfoddlawn oedd ein cydwladwyr gynt i dderbyn y grefydd Rufeinig (ac nid heb achos), ond yr oeddynt yn awr (y cyfryw yw grym drwg arferiad) yn anfoddlawn i'w gadael, ac i dderbyn Efengyl Crist. Ond ar ol hynny cafodd y genedl hon ei chystuddio yn dra gofidus â hir ryfeloedd am ei gwrthgiliad, ac fel y tybir, ei llwyr orchfygu, a'i chadw tanodd gan gyfreithiau llymion; eto o'r diwedd, rhyngodd bodd i Dduw, o'i gynefin drugaredd, edrych arni drachefn, trwy anfon Dafydd dduwiolaf a Solomon ddoeth, wrth y rhai y meddyliaf Harri'r Seithfed a'i fab, Harri'r Wythfed (y ddau yn Frenhinoedd o enwog goffadwriaeth, tad a thaid eich Graslonedd) y rhai yn rasusol a'i rhyddasant o'i phoenau, ac a lareiddiasant ei beichiau anioddefol, y naill trwy freinlen rhyddid, a'r llall trwy Ddeddfau Seneddol, gan symud pob caethiwed a rhwymau, trwy ei chorffori a'i anwyl ddeiliaid yn Lloegr.
Diameu nad cymwynas fechan oedd honno mewn ystyr dymhorol: ond y mae y gymwynas o drefniad a daioni eich Mawrhydi yn rhagori ar y llall gymaint ag a wna yr enaid ar y corff. Trosglwydda hanesiaeth henafol hyd atom wragedd (rhai ohonynt a fuant brif reolwyr ar Ynys Prydain, yr hon sy'n awr yn eiddo i chwi) nodedig am eu dysgeidiaeth a'u gwroldeb, megys Cambria Deg, Marsia Dda, Buddug Ddewr, Claudia Rufina a nodir yn un o Epistolau St. Paul, a Helen, mam yr ymerawdwr Cristionogol cyntaf, Cystennyn Fawr, a'r Santes Ursula o Gernyw, yng nghydag eraill ag ydynt yn enwog hyd heddyw, ond am eich Mawrhydi, gallaf yn briodol, fel y tybiaf, ddefnyddio geiriau y brenin a gyfenwai ei hun yn Lemuel: Llawer merch a weithiodd yn rymus; ond ti a ragoraist