Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Diwygwyr Cymru.djvu/50

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Brotestant mor selog. Gwrthwynebid y cyfieithydd galluog gan ei blwyfolion ei hun—o bosibl am fod rhai ohonynt yn Babyddion ac wedi digio wrth ei Brotestaniaeth ef. Gwysiwyd ef o flaen yr Archesgob Whitgift—ac er cymaint o ddrwg a wnaeth hwnnw i Ymneillduaeth a Chrefydd yng Nghymru, rhaid cydnabod iddo hefyd wneud gwasanaeth amhrisiadwy drwy noddi a chynorthwyo William Morgan i gyfieithu'r Beibl i iaith y werin.[1] Wrth gyflwyno'r cyfieithad Cymraeg o'i Feibl i'r Frenhines, ysgrifenna William Morgan rai brawddegau tra chynhwysfawr ac arwyddocaol ynghylch y perygl o geisio sicrhau unffurfiaeth ar draul y gwirionedd."[2] Ar ddiwedd ei lythyr

  1. Yn ei lythyr at y Frenhines dywed William Morgan fel hyn am Whitgift:—
    "Ac wedi yn brin ei ddechreu (y cyfieithad) buaswn wedi diffygio gan anhawsder y gorchwyl a maintioli'r gost, ac ni ddygaswn ond Pum Llyfr Moses yn unig i'r wasg, oni buasai imi gael fy nghymell i fyned ymlaen, a fy nghynorthwyo gan haclioni, awdurdod, a chyngor y Parchedicaf Dad yng Nghrist, Archesgob Caergaint, noddwr llenyddiaeth, amddiffynnwr y gwirionedd, a gwyliwr gofalus dros weddeidd-dra a threfn; yr hwn, o dan eich Mawrhydi, a lywyddodd y Cymry gyda'r doethineb a'r iawnder mwyaf, gan ystyried ufudd-dod a deall ein cydwladwyr a edrychodd arnynt yn garedig fel y maent hwythau bob amser yn ei glodfori yntau."
    Yn y dyfyniad uchod gwelwn Whitgift—llofrudd John Penry—yn ei fan goreu,—a'r Dr. William Morgan hyglod yn ei fan gwannaf.
  2. "Os oes rhai yn ewyllysio, er mwyn sicrhau unffurfiaeth, ar fod i'n cydwladwyr gael eu cymhell i ddysgu yr iaith Saesneg yn hytrach nag i'r Ysgrythyrau gael eu cyfieithu i'n hiaith ni; mi a fynnwn iddynt fod yn fwy gwyliadwrus rhag iddynt, yn eu hawydd am undeb, fod yn rhwystr i'r gwirionedd; ac fod iddynt ochel rhag gyrru crefydd ymaith trwy geisio meithrin cydgordiad. Oblegid, er y byddai yn dra dymunol i drigolion yr un ynys fod o'r un iaith ac ymadrodd, eto, dylid ystyried hefyd y cymerai hynny gymaint o amser a thrafferth i'w ddwyn i ben, fel y byddai yn rhy dost a chreulawn ewyllysio neu oddef i bobl Dduw drengu o newyn truenus am ei air Ef yn y cyfamser. Heblaw hynny, nid oes amheuaeth nag ydyw unffurfiaeth a chydgordiad mewn crefydd, yn hytrach nag mewn iaith, yn tueddu yn fwy at gynyrchu undeb. Ymhellach, nid ydyw mewn un modd yn briodol cyfrif undeb na chyfleusdra o flaen crefydd, ac nid ydyw yr ymddanghosiad allanol hwnnw o gytundeb rhwng dynion â'u gilydd i'w gymharu â'r heddwch y mae Gair Duw yn ei argraffu ar feddyliau dynion. Yn olaf, mor ffol ydyw y rhai a dybiant fod gwahardd i ddyn gael Gair Duw yn iaith ei fam yn ei annog i'w ddysgu mewn iaith estronol! Canys os na ddysgir crefydd yn yr iaith gyffredin, arhosa yn guddiedig mewn iaith anadnabyddus. A'r peth ni ŵyr dyn ddim am dano, ni wyr ychwaith ei ddefnyddioldeb, ei hyfrydwch, na'i werth, ac ni chymer ddim poen i'w gyrraedd. Gan hynny, atolygwn ar eich Mawrhydi beidio cymeryd eich rhwystro (ac yr wyf yn sicr na bydd