cydnebydd y cymorth a gafodd gan Esgobion Llanelwy a Bangor, gan David Powel (y soniwyd am dano uchod), gan Edmwnd Prys Archddiacon enwog Meirion, a chan Ed. Vaughan, Llywydd Ysbytty St. Ioan, "yr hon sydd yn Lutterworth."
Wrth ledaenu'r Ysgrythyrau yng Nghymru, ac wrth noddi yr iaith Gymraeg, gwnaeth Elizabeth fwy i hyrwyddo'r Diwygiad yn y Dywysogaeth, nag a wnaeth holl sêl Protestanaidd honedig ei thad a holl ymdrechion gonest ei brawd.
Ac yr oedd gwir angen am i rywbeth sylweddol gael ei wneud, canys yr oedd sefyllfa Cymru yn resynnus. Yn 1535 yr oedd William Barlow, Esgob Tyddewi, wedi rhoi adroddiad i Thomas Cromwell, Prif Weinidog Harri VIII., oedd yn gosod pethau allan mewn lliwiau eithriadol o dywyll. Cyhuddai yr Eglwyswyr o "lygredigaethau dychrynllyd, gorthrym—drethi twyllodrus, bywyd anrhefnus, delw—addoliaeth baganaidd, a gefnogir yn y modd mwyaf gwarthus dan lywodraeth yr Eglwyswyr."[1] Dyry Strype[2] yn 1550 ddarlun os yn bosibl fwy tywyll na hyn. Deng mlynedd wedi hyn gyrrodd Dr. Rowland Meyrick, Esgob Bangor, at glerigwyr ei Esgobaeth, nifer o gwestiynau sy'n lled—awgrymu cyflwr gwarthus nid yn unig o esgeulusdod mewn cyflawni, neu yn hytrach peidio cyflawni dyledswyddau, ond o anfoesoldeb cydnabyddedig ac agored. Ac yn y cyflwr gresynnus yna yr oedd Cymru pan ymddangosodd y personau a nodwyd yn y bennod hon, fel rhagflaenwyr y wawr oedd ar dorri.
Nodiadau
- ↑ Three Chapters of Letters, &c., Camden Society, p. 77.
- ↑ Strype's Ecclesiastical Memorials, vol. ii., p. 357.
i chwi gymeryd eich rhwystro) gan unrhyw ddadleuon rhithweddol, rhag ychwanegu i'r rhai a ddechreuasoch eu bendithio â chymwynasau; rhag tybied nad ydyw y rhai a gawsant un Testament gennych yn deilwng o un arall; rhag caniatau un arall i'r rhai hynny ag yr ydych eisoes wedi estyn iddynt un ffynonnell y gwirionedd; a rhag ymdrechu gorffen yr hyn yr oeddech yn awyddus i ymgymeryd ag ef; fel, yn wir, y gall eich holl bobl glywed pethau rhyfedd Duw yn eu hiaith eu hunain, ac fel y byddo i bob tafod glodfori Duw."