glywodd yng Nghaergrawnt. Pan aeth gyntaf yno yr oedd yn Babydd selog. Ni wyddai ddim am y Beibl—ond gymaint ag a gaffai glywed ohono yn y gwasanaeth ffurfiol ar y Sul. Cydffurfiai a'r holl wasanaeth Eglwysig arferol am dymor. Ond pan ddaeth i gyffyrddiad â John Udall, dygodd hwnnw ef i adnabyddiaeth â nifer o bersonau hollol wahanol i'r rhai yr arferai gynt ymgymysgu â hwynt. Fel y gwnaeth John a Charles Wesley a'r gymdeithas fechan o fyfyrwyr yn Rhydychain gant a haner o flynyddau wedyn, arferai nifer o'r Puritaniaid yng Nghaergrawnt, yn nyddiau Penry, gyfarfod â'u gilydd unwaith yr wythnos i ddarllen ac esbonio Gair Duw, ac i gynnal cyfarfodydd gweddio. Ceid hefyd, ambell waith, bregeth gan un neu arall o'r Puritaniaid oeddent eisoes yn tanio gwahanol rannau o Loegr. Ymhlith y cyfryw rai y gwelodd John Penry, am y tro cyntaf erioed, beth oedd gwir gynnwys y Beibl. Apeliodd dysgeidiaeth y Llyfr at ei gydwybod, a chyffrodd ei galon—ac o'r dydd hwnnw allan nis gallai John Penry lai na phregethu Gair y Gwirionedd mewn amser ac allan o amser, pa le a pha bryd bynnag y caffai gyfle.
Ac o bob lle a safai mewn angen am bregethu, argyhoeddwyd ef mai ei wlad enedigol ei hun oedd mewn mwyaf o angen. Yr oedd amryw Gymry ieuainc yn y ddwy Brifysgol yn rhai o Golegau Rhydychain hwynthwy oedd yn y mwyafrif[1]—ond yr oeddynt oll, fel Penry ei hun, wedi eu trwytho â syniadau Pabyddol. Gwyddai fod Cymru yn gorwedd mewn tywyllwch, a'r rhai a ddylent ddysgu'r bobl yn ddifater,
- ↑ Historia Oxoniensis. (Wood, 1674.)
but a Presbitrye, and take our place while the injoy our privileges. . . I pray you stop the mouthes, or make shorte the toungs, of such ministers as dare to make oraison in their pulpits for the persecuted in England for the Gospel. Suppose you, my deare brother, that I can tollerat such scandals of my sincere government. I hope, howsoever, you be pleased to bear with their audacitie towards yourselfe, yet you will not suffer a strange King receave that indignities at such caterpillars' hands; that, instede of fruite, I am afraid will stuf your realme with venom. . . . Besiching you. . . not to give more harbor rome to vacabond traitors and seditious inventors, but to returne them to me, or banishe them your land."—(Camden Society's Publications, xlvi.)