esgeulus, a gwaeth na hynny. Flwyddyn cyn i Feibl William Morgan ymddangos, danfonodd Penry ddeiseb ostyngedig i'r Frenhines a'r Senedd, yn erfyn ar fod trefniant gwell yn cael ei wneud i sicrhau pregethiad yr Efengyl yng Nghymru.[1] Y pryd hwnnw, fel yn awr, siaredid Saesneg yn y trefi ar lan y môr, ac ar gyffiniau Lloegr, ond Cymraeg yn yr oll o'r canolbarth. Ac yr oedd y parthau Cymreig yn fwy coel-grefyddol na'r rhannau Seisnigaidd.[2] A thros gyflwr gresynnus ei wlad, gwaedai calon Penry.
Ni bu Eglwyswr mwy teyrngarol[3] na Chymro mwy gwladgarol[4] erioed na Penry. Petai Eglwys Loegr wedi rhoi lle iddo weithio o'i mewn, buasai, yn ol pob tebyg, wedi dod yn un o'i cholofnau cadarnaf.[5] Ond derbyniwyd yr apêl ddaeth yn eirias boeth o galon y Cymro, gydag oerfelgarwch gan
- ↑ Cwynai fod miloedd o'i gydwladwyr "nad adwaenent Iesu Grist nac fel Duw nac fel dyn, fel offeiriad nac fel proffwyd." "Rhaid," eb efe, "greu cydwybod i'r bobl." Awgryma y gellid danfon tri chant o bregethwyr o'r Prifysgolion i'r ardaloedd yng Nghymru oedd yn deall Saesneg ac y gellid symud Cymry o fywiolaethau yn Lloegr i wasanaethu eu cenedl eu hunain.
- ↑ In the Lansdowne MSS. iii., Art. 4, the writer says, "More than the name of God, they know nothing at all." They take long journeys, barefoot, to the ruins of some ancient church or famous well; and there, or on the mountain sides, listen to the minstrels who, accompanied by the harp, celebrate the deeds of their ancestors.
- ↑ Sonia am yr Eglwys fel "Eglwys Loegr anwyl"—a thrwy ei ysgrifau rhed y syniad ei fod yn dymuno llwydd yr Eglwys ymron yn gymaint ag y dymunai les ei gydwladwyr.
- ↑ Dywed:" Dichon y gofidiem lai fod yr Efengyl yn cael ei gwahardd ini oni bae mai etifeddiaeth ein tadau gynt, y Brythoniaid Cymreig, ydyw, ac a feddiannid ganddynt hwy am ganrifoedd yn y wlad hon. Canys er nas gallwn yn awr alw gwir grefydd wrth ei henw priodol, nid blodau yr hen wirionedd oedd yn eiddo ein tadau ac a seliasant â'u gwaed yw yr arferion coelgrefyddol, eithr cynnyrch boncyn difywyd Rhufain a blannwyd yn Lloegr gan Awstin, y mynach balch, yn erbyn gweithredoedd gormesol yr hwn y safodd duwinyddion Cymru gynt, ie, hyd yn oed ar draul eu bywydau."
- ↑ "Gwelwn," meddai, "Eglwysi Duw o'n cwmpas yn Ffrainc a Belgium yn mynd yn ddrylliau. Mynnwn petai'r Ysgotland wedi glynu wrth ei chariad cyntaf. Doed a ddelo, safwch chwi yn wrol yn y ffydd, fy nhadau a'm brodyr. . . Dichon y rhynga bodd i Dduw, er i'r canghennau byw gael eu torri ymaith, ein bywiocau ni ganghennau meirw, trwy rinwedd ein Pen—Iesu Grist. Nid wyf yn ameu, trwy ddaioni Duw, os sefydlir y gwirionedd yn ein mysg drwy bregethu, na bydd i bawb yn Ewrop a broffesant ddaioni, ddiolch yn galonnog i'r Arglwydd am ein sel a'n dewrder ni yn y gwaith hwn.'