Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Diwygwyr Cymru.djvu/56

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y Senedd. Cafodd un Aelod Cymreig ddigon o wroldeb i godi i fyny a chadarnhau gwirionedd yr hyn a ddywedai Penry am gyflwr y wlad. Ond ni fynnai Ty'r Cyffredin ddwyn ar eu pennau lid Whitgift a digofaint Elizabeth. Trowyd y ddau ar Penry. Taflwyd ef yng ngharchar. Bu yno am fis heb wybod beth oedd y cyhuddiad yn ei erbyn. Pan ddygwyd ef ger bron y llys, cafodd mai ei drosedd mawr oedd dweyd, fel y gwnaeth yn ei draethawd, nas gallai offeiriad na fyddai byth yn pregethu, fod yn weinidog da i Iesu Grist. Dywedodd Whitgift, yr hwn, gydag Esgob Winchester, a wrandawent yr achos, fod dweyd yr hyn a ddywedodd Penry "yn anioddefol ac yn heresi melldigedig." "Diolch i Dduw ynte," ebe Penry, "ddarfod imi erioed wybod y cyfryw heresi, a thrwy ras Duw rhoddaf i fyny fy mywyd cyn y rhoddaf y gred hon i fyny." "Heresi ydyw, a thi a gei ei dynnu yn ol!" ebe Esgob Winchester. "Dim byth tra bwyf byw, trwy gymorth Duw!" oedd ateb gwrol y Cymro.[1]

Cydunid yn natur Penry wroldeb y llew â diniweidrwydd yr oen. Yr ochr flaenaf i'w gymeriad yn unig a welodd Whitgift a'i gyd-erlidwyr. Yr ochr arall yn unig a welodd ei wraig, ei blant, a'i gyfeillion. Pregethodd lawer yng Nghymru,[2] a gwnaeth o bosibl fwy fyth o waith yn Lloegr drwy ei ysgrifeniadau. Yr oedd cyhoeddi'r pamffledau hyn o'i eiddo yn weithred feiddgar. Yr oedd gwaharddiad y Star Chamber gormesol[3] wedi bod mewn grym bellach am dros ugain mlynedd, a gwynebu'r llew yn ei ffau oedd herio, fel y

  1. MS. Chronology, vol. ii., p. 487.
  2. Dywed y Parch. D. Morgan, yn ei lawysgrifau, fod pedair o Eglwysi Ymneillduol yn Sir Frycheiniog y gellir olrhain eu tarddiad i lafur personol Penry.
  3. Yn Ionawr, 1566, deddfodd y Llys hwn fel hyn:—
    "That no person should print or publish any book against the Queen's injunctions, ordinances, or letters patent, set forth, or to be set forth or against the meaning of them.
    "That such offenders should forfeit all their works and copies, and suffer three months' imprisonment, and never practice the art of printing any more.That no persons should sell, bind, or stitch such books, upon pain of twenty shillings for every book.'