gwnaeth Penry, ddigofaint y llys mwyaf peryglus i iawnderau'r bobl a welodd y wlad hon erioed. Ei drosedd mawr, yngolwg yr awdurdodau Eglwysig, oedd awgrymu fod dyn heb urddau a bregethai Grist, yn well nag offeiriad urddedig ond segur. Gyda hyn, hefyd, dysgai athrawiaeth newydd arall, sef y gallai'r bobl gynnal eu gweinidogion eu hunain drwy eu cyfraniadau gwirfoddol. Ni bu erioed gwaeth heresi yn erbyn holl ddysgeidiaeth Eglwys Sefydledig, na dweyd nad oedd eisieu urddau i bregethu, ac mai gwirfoddol a ddylai cynhaliaeth crefydd fod. Nid rhyfedd i Whitgift ddweyd fod y cyfryw ddysgeidiaeth yn "anioddefol ac yn heresi melldigedig."[1] Rhan hanfodol arall o heresi Penry, oedd cymhell Crefydd Deuluaidd.[2] Apeliai yn daer at yr Aelodau Seneddol Cymreig i sefyll i fyny yn wrol dros hawliau a buddiannau arbennig y Dywysogaeth. Petai yn un o Genedlaetholwyr Cymru diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, nis gallasai siarad yn fwy croew am ddyledswydd Aelodau Seneddol ei wlad. Ceryddai bawb a esgeulusent eu dyledswyddau, pa un bynnag ai esgobion, ai clerigwyr cyffredin, ai lleygwyr a fyddent. Gwnai hyn oll, nid o dan ffugenw, eithr gan arwyddo ei enw, "John Penry," wrth ei bamffledau. Ni chauai ei lygaid, ychwaith, i'r ffaith ei fod wrth wneud hyn. oll yn cymeryd ei einioes yn ei law. Profir hyn yn amlwg gan y dyfyniad canlynol:—
"Felly yr wyf wedi cyflawni fy nyledswydd tuag at Dduw, Ei eglwys, fy ngwlad, a chwithau o Uchel Lys y Senedd; a hyn a wnawn eto petai
- ↑ Ac eto rhaid cydnabod mai dylanwad personol Elizabeth yn hytrach na gwir ddaliadau Eglwyswyr ei chyfnod, oedd yn gwneud i'r ddysgeidiaeth hon gael ei gwthio ar y wlad. Petai'r Eglwys yn y dyddiau hynny wedi cael cyfle i roddi ei llais, buasai o blaid llawer mwy o ryddid nag a ganiateid. Yn ei waith ar Buritaniaid Oes Elizabeth dyry y Proffeswr Hopkins dystiolaeth yn profi—1. Nad ystyrrid y drefn Esgobaethol yn hanfodol i gyfansoddiad Eglwys Gristionogol.2. Nad ystyrrid urddau esgobaethol yn hanfodol er gweinyddu yr ordinhadau.3. Fod Eglwys Loegr yn cydnabod urddau a roddid gan unrhyw Eglwys reolaidd arall.
- ↑ Gwel "A view of some part of such Public Wants and Disorders as are in the service of God within Her Majesty's country of Wales."