Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Diwygwyr Cymru.djvu/60

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

werthfawr honno yng Nghrist Iesu, am amddiffyn yr hon yr wyf heddyw mewn llawer o lawenydd enaid er mewn llawer o anghysur allanol. Gweddiwch lawer ac yn aml am deyrnasiad llwyddiannus a chadwedigaeth gorff ac enaid ei gwir ardderchog Fawrhydi y Frenhines Elizabeth, o dan deyrnasiad yr hon y daethum i'r wybodaeth a'r gobaith gwynfydedig yn y rhai yr wyf yn sefyll. Bydded i'r Arglwydd ddangos trugaredd iddi am hynny, yn y bywyd hwn, ac hefyd yn y dydd mawr hwnnw. Byddwch garedig i, a chynorthwywch bawb dieithriaid; ac i bobl yr Ysgotland, lle y bum i, a'ch mam, a dwy ohonoch chwithau, fyw fel dieithriaid, ac eto a gawsom groesaw, ac a dderbyniasom garedigrwydd mawr, er mwyn enw ein Duw. Byddwch dyner eich calonnau i'r weddw a'r amddifad; yn gymaint am fod deddf Duw a natur yn gofyn hyn oddiar eich llaw, ac am, o ran dim ar a wn i, fy mod yn debyg o'ch gadael chwi yn amddifaid, a'ch mam yn weddw. Ac yn olaf, fy merched, tyfwch yn holl rasusau gwybodaeth a duwioldeb yng Nghrist Iesu. Credwch a gobeithiwch yn gadarn yn yr iachawdwriaeth a geir ynddo Ef. Dioddefwch adfyd gydag Ef yn yr Eglwys dlawd hon. Parhewch mewn ofn duwiol hyd y diwedd; yna cewch chwi a minnau fwynhau cyfarfod gwynfydedig a'n gilydd yn nydd mawr ei ymddangosiad Ef."[1]

Ni ysgrifennodd Paul erioed ddim tynerach, dim mwy aruchel, na'r Epistol hwn o eiddo John Penry at ei blant bychain. Dyddiad y llythyr hwn yw Ebrill 10, 1593. Ymhen saith wythnos wedyn arweiniwyd ef i'r crogbren. Merthyrwyd ef yn anghyfiawn, nid am ei fod wedi cyflawni unrhyw drosedd yn erbyn deddfau'r wlad, ond am fod ei athrawiaeth yn milwrio yn erbyn buddiannau tymhorol a phersonol swyddogion Eglwysig.[2]

Rhoddwyd corff John Penry yn y bedd dros dri chan mlynedd yn ol. Ond y mae efe er yn farw yn llefaru eto. Gellir cymhwyso y llythyr tyner ysgrifennodd at ei blant bach, at bawb yng Nghymru heddyw—ac os yw cydwybod Cymru heddyw'n effro, i lafur John Penry, a rhai o gyffelyb ysbryd ag ef, y mae ini ddiolch am hynny. Ac os yw Cymru'r dyfodol i fod yn deilwng o aberth y gwaed gwirion a dywalltwyd ar ei rhan, rhaid i rieni Cymru heddyw geisio plannu yng ngalonnau eu plant yr egwyddorion a draddododd John Penry i'w blant yntau yn y llythyr hwnnw.

Nodiadau

  1. Yelverton MSS.
  2. Teimlodd y Prif Farnwr Popham fod amddiffyniad Penry o'i ysgrifenniadau, ar dir y gyfraith, yn anatebadwy. Llofruddiaeth gyfreithiol—judicial murder—oedd dienyddiad Penry. Ni phrofwyd ef erioed yn euog o fod yn awdwr y Marprelate Tracts—ac mae holl bwysau'r tystiolaethau mwyaf diweddar yn mynd i brofi ei ddieuogrwydd.