PENNOD VI.
ADOLYGU'R DAITH.
Dyma ni yn awr wedi cyrraedd at faen ffin amlwg yn hanes Ymneillduaeth; a chyn cychwyn ymlaen at y cyfnod nesaf, da fydd ini aros am funud, ac edrych yn ol ar y llwybr a deithiwyd eisoes, modd y gall ei brif nodweddion gael eu hargraffu yn ddyfnach ar y cof,—a rhag ein bod, wrth ganlyn y brif-ffordd, wedi anghofio sylwi ar ambell i fforch yn y ffordd honno sy'n haeddu ystyriaeth.
Gwelwn, ynte, fel y peth amlycaf yn yr holl daith, fod y Tudoriaid wedi torri iau Rhufain yn effeithiol, ac wedi taflu ymaith ei hawdurdod. Yr oedd hynny yn golygu nad oedd Eglwys Loegr mwyach yn cydnabod unrhyw awdurdod arni gan neb o'r tu allan i'w chymundeb ei hun. Yr oedd anibyniaeth Eglwys Loegr wedi cael ei ganlyn gan ledaeniad cyffredinol yr Ysgrythyrau yn iaith y bobl yn yr Eglwysi,— yn Saesneg yn Lloegr, yn Gymraeg yng Nghymru.
Yr oedd y Teyrn wedi cymeryd lle'r Pab fel Pen yr Eglwys. Yr oedd cysylltiad yr Eglwys a'r Wladwriaeth yn parhau, y llysoedd eglwysig yn ymyrryd â buddiannau gwladol, a'r llysoedd gwladol yn cosbi am droseddau eglwysig.
Yn y wlad rhennid crefyddwyr i ddau ddosbarth mawr, sef (1) y rhai a gydnabyddent, a (2) y rhai a wadent, hawl y Teyrn i fod yn Ben yr Eglwys. Ond rhennid y ddau hyn yn ddwy adran fawr ac yr oedd mwy o bellder rhwng yr adrannau yn yr un dosbarth nag oedd rhwng y ddau ddosbarth a'u gilydd. Gellir rhannu'r rhai a gydnabyddent y Teyrn yn Ben yr Eglwys i (a) y Protestaniaid Swyddogol a gefnogent Elizabeth yn ei pholisi eglwysig, a (b) y Protestaniaid Puritanaidd, y rhai, tra yn aros yn Eglwys Loegr, a anghytunent â'i defodau. Yn yr un modd gellir rhannu'r dosbarth arall i (c) y