Trodd yr holl frwydr ar bwnc y gwisgoedd offeiriadol. Yr oedd, fel y dangosir yn y man, wahaniaethau eraill; ond trwy gytundeb anffurfiol y ddwy blaid, gwnaed y wisg offeiriadol yn faen prawf. Yr oedd y wisg, i'r ddwy blaid, yn arwydd allanol o egwyddor bwysig, a'r egwyddor, ac nid y wisg ynddi ei hun, oedd y cwestiwn mewn dadl. Golygai'r wisg urdd offeiriadol; golygai urdd offeiriadol gyfundrefn eglwysig mewn ffurf neillduol; golygai'r gyfundrefn honno Babyddiaeth ym mhopeth ond enw.
O hyn tyfodd allan y gwahaniaeth a aeth yn fwy-fwy o flwyddyn i flwyddyn; aeth y gagendor, oedd mor fychan nes bron bod yn anghanfyddadwy ar y dechreu, yn lletach-letach o'r naill oes i'r llall—nes erbyn heddyw nis gellir gwneud pont digon hir i'w chroesi.
Beth, ynte, oedd daliadau'r Puritaniaid? Nodaf yn syml y pethau yr oeddent yn foddlon iddynt, a'r pethau yr anghytunent â hwynt, ac a wrthwynebent,—ond a ystyrrid yn hanfodol gan yr Eglwyswyr Swyddogol.
Yr oeddent yn foddlon i gyfundrefn esgobaethol;—ond dymunent gyfyngu swydd yr esgob i fod yn llywydd cymanfa henuriaid neu glerigwyr ei esgobaeth.
Boddlonent i ffurf o weddiau, yn wir yn ymarferol i'r oll o'r Llyfr Gweddi Gyffredin;—ond dymunent gael hawl i aralleirio ambell frawddeg, ac i offrymu gweddiau o'u heiddynt eu hunain, un o flaen a'r llall ar ol y bregeth.[1] Boddlonent i'r rhai a fynnent arfer y gwisgoedd; ond dymunent gael rhyddid i beidio eu gwisgo os dewisid hynny. Boddlonent i'r homiliau argraffedig; ond dadleuent na ddylai neb bregethu os na fedrai gyfansoddi ei bregethau ei hun.
Gresynnent amddifadrwydd disgyblaeth yn yr Eglwys, a'r ffaith fod pob math o gymeriadau yn cael agoshau at Fwrdd yr Arglwydd.
- ↑ Cydmarer hyn a'r arferiad sydd yn ffynnu hyd heddyw ymhlith Ymneillduwyr Lloegr hyd yn oed Eglwysi rhai o'r Anibynnwyr mwyaf cadarn yn eu Hymneillduaeth.