Gwrthwynebent hawl llysoedd eglwysig i gosbi dyn yn ei berson na'i amgylchiadau; gwrthwynebent amlhad swyddi a theitlau yn yr Eglwys, megys deon, archddiacon, &c., fel yn anysgrythyrol. Gwrthwynebent rhai o'r defodau claddu a phriodi; gwrthwynebent ddefnyddio'r fodrwy mewn priodas; gwrthwynebent wneud arwydd y groes mewn bedydd; gwrthwynebent y ddefod o benodi tad a mam bedydd, ac yn arbennig Canon 29 a ddarparai "Na ddylid gwasgu ar yr un rhiant i fod yn bresennol ym medydd ei blentyn, ac na ddylid caniatau i'r un rhiant fod yn dad neu fam bedydd i'w plant eu hunain." Dalient hwy mai'r rhieni, ac nid dieithriaid, a ddylent gyflwyno'r plentyn i'r Arglwydd drwy arwydd y bedydd.[1] Gwrthwynebent yr arferiad o gonffirmio plant cyn fod y plant yn ddigon hen i ddeall beth oeddent yn ei wneuthur;[2] yr arferiad o benlinio wrth Fwrdd yr Arglwydd; a'r arferiad o ymgrymu, neu blygu pen, pan enwir enw'r Iesu.
Delid y golygiadau hyn gan lawer na fynnent droi eu cefn ar Eglwys Loegr, ac a arosasant yn hir yn ei chymundeb wedi'r adeg y plannwyd Ymneillduaeth yn y tir. Ond yr oedd rhai, . hyd yn oed y pryd hwnnw, a aent ymhellach na hyn, ac na fynnent gydffurfio o gwbl. Daeth y teimlad hwn i'r golwg yn nyddiau erledigaeth Mari. Sylwyd eisoes (tud. 25) fod y rhai a ffoisant y pryd hwnnw i'r Cyfandir wedi ymffurfio yn eglwys—ac mai honno a blannwyd gan Saeson mewn gwlad estronol oedd cychwyniad Eglwysi Ymneillduol Lloegr. Ond nid oeddent yn unfryd unfarn parthed y dull o addoli. Mynnai rhai gymeryd Llyfr Gweddi Edward VI. fel ffurf o wasanaeth; tra eraill, yn meddu argyhoeddiadau cryfach, a fynnent droi ymaith yn llwyr oddiwrth arferion a fuont gynt yn gysylltiedig
- ↑ Y fydwraig sy'n aml heddyw'n cyflwyno plant Ymneillduwyr yn y bedydd; ac mewn rhai mannau ni fydd y tad byth yn bresennol yn yr ordinhad. Yr wyf yn cofio fy nhad yn creu cryn gyffro wrth fedyddio plentyn, trwy iddo wrthod derbyn y bychan o law'r fydwraig. Gwnaeth i honno roi'r plentyn yn ol i'r fam, y fam i roi'r plentyn i'r tad, a'r tad i'w estyn i'w freichiau yntau, cyn y cyflawnai'r ordinhad.
- ↑ Yr oedd hyn yn gyson ag egwyddor y Bedyddwyr.