â Phabyddiaeth. Yr olaf drechodd ar y dechreu, a mabwysiadwyd ffurf wasanaeth Eglwys Ddiwygiedig Geneva. Ond pan ddaeth Dr. Cox, a wnaed wedi hynny yn Esgob Ely, gyda nifer o ffoaduriaid eraill o Loegr i Frankfort, a hwythau yn dal yn gadarn wrth Lyfr Gweddi Edward, cymerodd rhwyg le. ildiwyd Eglwys Ymneillduol Frankfort i Dr. Cox a'i ddilynwyr, ac aeth y lleill i Geneva, lle y sefydlwyd Eglwys Seisnig arall.
Gwelir felly fod gwahaniaeth barn yn bodoli ymhlith yr Ymneillduwyr cyntaf, ar bynciau a ddaethant wedi hynny i gael eu hystyried yn hanfodol, ac a fuont yn achlysur, mewn cyfnod diweddarach, i wahanu adrannau o'r Ymneillduwyr oddiwrth eu gilydd.
Gwahaniaethent nid yn unig ar gwestiwn o ddefodaeth ac ar bynciau o athrawiaeth, ond hefyd yn eu syniadau am y cysylltiad a ddylai fodoli rhwng crefydd a gwleidyddiaeth. Dylid cofio, er mwyn deall hyn yn glir, fod y Llys (hyny yw y Llywodraeth) a'r Esgobion, neu mewn geiriau eraill yr awdurdod Gwladwriaethol a'r awdurdod Eglwysig, bob amser yn y cyfnod dan sylw, yn myned law yn llaw. Prin y gellid gwahaniaethu rhyngddynt gan mor gymlhethedig yr oeddent. Nis gellid ymosod ar y naill heb niweidio y llall. Ceisiodd Penry wahaniaethu rhyngddynt, fel y gwelir yn amlwg yn ei lythyrau. Tra yn melldithio'r Esgobaethwyr yn eu polisi Eglwysig, gweddiai am bob bendith ar Elizabeth fel Pen y Wladwriaeth. Ond methodd Penry—ac am fod Elizabeth, yn ei chalon, yn cysylltu ei grefydd ef â syniadau gwleidyddol a dybiai hi oeddynt yn niweidiol i'r Orsedd, y cafodd ef ei ferthyru.[1]
Gwelir y gwahaniaeth hyn yn amlwg yn y tri gwr a gynrychiolent Anghydffurfiaeth y Cyfandir, yr Ysgotland, a Lloegr. Ni fynnai John Calfin gysylltu ei hun â gwleidyddiaeth
- ↑ Gellir sylwi yma fod syniadau Calvin wedi trwytho Puritaniaid Lloegr. Tybiai'r Protestaniaid swyddogol ar y llaw arall fod Calfiniaeth, yn ei hanfod, yn elyniaethol i fuddiannau Eglwys Loegr.Eithr nid hyn oedd y rheswm a gynhyrfai Whitgift i'w symud o'r ffordd.