Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Diwygwyr Cymru.djvu/72

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

phob peth a allai ei ddwyn i'w gof. Rhoddwyd pob help iddo gan Eglwyswyr Pabyddol Lloegr i dorri iau Presbyteriaeth. Yn ei bresenoldeb hanner addolent ef megys Duw.[1] Yr oedd ei ben yn ddigon ysgafn cynt, ond aeth yr ynfytyn yn ynfytach o dan ddylanwad y fath waseiddiwch.

I'r gwaseiddiwch gwarthus hwn ar ran yr Eglwys, y gellir olrhain llawer o ddiffygion amlycaf teyrnasiad Iago. Daeth yn grediniwr cryf yn yr egwyddor beryglus o "Hawl Dwyfol y Brenin "—hynny yw, mai gosodiad dwyfol oedd brenhiniaeth, ac mai cynrychiolydd Duw ar y ddaear, drwy benodiad dwyfol, yw'r Brenin.

Golyga'r cyfryw egwyddor yn yr Eglwys, awdurdod Pab anffaeledig; golyga mewn gwladweiniaeth, Un-bennaeth y Teyrn; golyga i'r deiliaid, ufudd-dod parod a diwrthwynebiad i bob gorchymyn o eiddo'r Llys, ai Brenhinol ai Eglwysig. Derbynnid felly bob awdurdod yn yr Eglwys ac yn y Wladwriaeth oddiwrth y Brenin. Yr oedd gwrthwynebu'r Esgob, yngolwg Iago, yn gyfystyr a gwrthwynebu'r Brenin, a gwrthwynebu'r Brenin yn golygu gwrthwynebu Duw. Felly golygai Hawl Dwyfol y Brenin hefyd Hawl Dwyfol yr Esgob. Dyma gredo Iago ffol a'i fab anffodus Siarl. Mae effeithiau'r ddysgeidiaeth hon erbyn heddyw wedi cael eu hysgrifennu mewn llythyrennau breision cochion, ar dudalennau hanes ein gwlad. Gwnaeth i Iago ei hun ymddangos fel ynfytyn yngwisg Solomon; arweiniodd ei fab i'r dienyddle yn y Neuadd Wen; gyrrodd y Wladwriaeth i wrthryfel: dymchwelodd yr Eglwys dros dymor, a phlannodd Ymneillduaeth yn barhaol yn y tir. Y gredo hon a gynhyrchodd ddynion mor wahanol a Laud a Baxter yn yr Eglwys, a rhai fel Wentworth a Cromwell yn y Wladwriaeth ac a roddodd i Gymru William Wroth, William Erbury, Walter Cradoc, Vavasor Powel, John Myles, a'r llu

  1. Syrthiodd Bancroft, Esgob Llundain, a ddaeth wedyn yn Archesgob, ar ei liniau o'i flaen gan lefain:—"Mae fy nghalon yn toddi o'm mewn gan lawenydd fod yr Hollalluog Dduw, o'i fawr drugaredd, wedi rhoddi ini y cyfryw Frenin ar na welwyd o'r blaen er dyddiau Crist!" A'r Archesgob (Whitgift, dienyddwr Penry) yntau a gymerodd i fyny'r ddameg gan ddweyd: Yn ddiamheuol mae eich Mawrhydi yn llefaru megys trwy gymorth arbennig Ysbryd Duw."