honno. Yr oedd y cyfan wedi cael ei drefnu ymlaen llaw. Gwnaed y pedwar Puritan yn gyff gwawd gan Iago a'r Esgobion. Pan ddadleuent dros ganiatad i'r sawl a ddymunent hynny i beidio defnyddio'r gwisgoedd a dybid yn Babyddol, ac i beidio gwneud arwydd y groes mewn seremoniau, chwythodd y Brenin fygythion gan ddweyd y gorfodai hwynt i gydffurfio, neu ymadael o'r Eglwys.[1]
Yr unig beth da a ddeilliodd o'r Gynhadledd oedd, ynghyntaf, argraffiad newydd o'r Beibl Seisnig (yr un sydd yn awr yn gyfieithad awdurdodedig Lloegr); ac yn ail, profi i'r Puritaniaid nas gallent ddisgwyl ffafr oddiar law'r brenin. Taerineb Dr. Reynolds a balchder hunanol Iago, a sicrhaodd y Beibl newydd i'r Sais. Chwenychai'r brenin ddangos ei ddysgeidiaeth ynglŷn â'r cyfieithad newydd, ac felly mynnodd ei gael ar waethaf gwrthwynebiad yr esgobion.[2]
Cyn hir ar ol y Gynhadledd, cynhaliwyd Cymanfa Eglwysig, ac yn honno gwnaed cais pellach ar ran y Puritaniaid—ond yn ofer. Esgob Cymreig er nad Cymro—a ymladdodd yno dros hawliau cydwybod. Dr. Rudd, Esgob Ty Ddewi, oedd Rhybuddiodd y Gymanfa eu bod y gwr da a wnaeth hynny. ar ben y ffordd i yrru allan o'r Eglwys gannoedd o glerigwyr
- ↑ Trwy'r Gynhadledd bradychodd y brenin ei elyniaeth anghymodlawn at Buritaniaeth. "Mae Presbyteriaeth," eb efe, "mor anghyson â brenhiniaeth, ag yw Duw a'r diafol." "Heb Esgob—heb frenin," meddai drachefn. (Phenix Britannicus).Danodai i'r Puritaniaid eu bod wrth wrthwynebu'r Esgobion "yn dynoethi Crist" (Nuge Antique, i. 181).Ac am ddweyd pethau o'r fath y dywedodd yr Archesgob wrtho ei fod yn llefaru drwy ysbrydoliaeth Duw!
- ↑ Dichon mai ynglŷn â'r Beibl yma y gwelir y Brenin Iago ar ei oreu. Ysgrifennodd at Archesgobion Caergaint ac Efrog, ac at y Prifysgolion, yn eu hannog i sicrhau gwasanaeth y dynion mwyaf cymwys. Cymhellai hwynt hefyd i ddefnyddio'r hawl oedd ganddynt i benodi i fywiolaethau Eglwysig, &c., yn y fath fodd ag i sicrhau tâl teilwng i'r cyfieithwyr am eu gwasanaeth (gwel y llythyrau yn y Record Office. Dom. Series, cyf. viii. Rhif 117, cyf. xii. Rhif 73). Ond mynnodd yr Esgobion hwythau gael gwyrdroi geiriau gwreiddiol i ateb eu hamcanion hwy. Er engraifft rhoddir (Act i. 20)"Esgobaeth" (ac nid "swydd") i Judas Iscariot, er mwyn dangos mai " esgobion" oedd yr "Apostolion." Yn yr un modd er mwyn galw adeilad—ac nid y bobl yn eglwys," rhoddir yr enw hwnnw i deml baganaidd (Act. xix. 37). (Sylwer mai "temlau" a ddefnyddir yn y cyfieithad Cymraeg, a "Churches" yn yr un Saesneg).