Gwelodd yntau, fel Whitgift, y pwysigrwydd o gael gafael yn y plant. Gorchymynnodd gynnal math o Ysgolion Sabothol yn yr Eglwysi plwyfol, ar brydnawn Sul, i egwyddori'r plant.[1]. Eithr nid zel dros addysg a'i cymhellodd, canys pan geisiodd John White, o Henllan,[2] ynghyda'r Dr. Wm. Gouge, ac eraill, sefydlu athrawon i'r bobl, er fod yr athrawon hynny yn Gydffurfwyr, rhwystrwyd hwynt gan Laud, a gorfu iddynt roi heibio'r cynllun am dymor.
Ond er tywylled y cyfnod hwn, dyma gyfnod lledaeniad y goleuni yn Lloegr, a thoriad y wawr yng Nghymru. Dywedwyd fod llawer o'r tri chant a drowyd allan gan Iago wedi mynd i wledydd tramor. Ymhlith y ffoaduriaid i'r Cyfandir yr oedd dau offeiriad duwiol o'r enw John Robinson a Henry Jacob. Aeth y blaenaf i Leyden yn 1610. Mabwysiadodd syniadau Brown (gwel tud. 59) am ffurflywodraeth eglwysig; ond caniatäi fwy o amrywiaeth barn bersonol o lawer nag a wnai Brown. Casglodd Robinson yn fuan eglwys o dri chant o aelodau yn Leyden. Pan ffodd Jacob i'r Cyfandir, yr oedd yntau wedi ei drwytho â chyffelyb syniadau am ffurflywodraeth ac anibyniaeth eglwysig. Adnabyddid y gyfundrefn a sylfaenwyd gan y ddau hyn, o hynny allan fel Anibyniaeth. Ar ei ddychweliad i Loegr, crynhodd Mr. Jacob gyfeillion o gyffelyb syniadau ag yntau, o'i amgylch; a ffurfiodd, yn 1616, eglwys a ystyrrir fel yr Eglwys Anibynnol ffurfiol gyntaf yn Lloegr.[3] Wedi ei feddiannu gan ysbryd cenhadol—fel John Wesley a George Whitefield ymhen can mlynedd wedyn
- ↑ Neale's Hist. Purits., vol. i., p. 540
- ↑ Wele linellau beddargraff y Cymro hwn a geir yn Eglwys y Deml yn Llundain:—
"Here lyeth a John, a burning shining light,
His name, life, actions, all were White!" - ↑ Yn ol rhai haneswyr, pa fodd bynnag, yr oedd Mr. Henry Jacob yn weinidog ar Eglwys Anibynnol yn Llundain cyn 1610. Ond gan mai yn 1616 y ceir y profion diamheuol cyntaf o fodolaeth yr Eglwys honno fel cymdeithas ffurfiol a chyfundrefnol, dyna'r dyddiad a roddaf uchod i'w ffurfiad. Ar yr un pryd teg yw dweyd, fod profion diamheuol fod Jacob ei hun, mor foreu a'r flwyddyn 1609 yn dal syniadau hanfodol Anibyniaeth am ffurf-lywodraeth eglwysig. (Gwel ei Ddeisyfiad Gostyngedig" at y brenin: To the Right High and Mighty Prince James, by the Grace