a Medi 12, 1633, ymffurfiasant yn Eglwys Fedyddiedig, gan gymeryd Mr. John Spilsbury yn weinidog iddynt. A dyma'r eglwys a ystyrrir fel yr Eglwys Fedyddiedig ffurfiol gyntaf yn Lloegr.[1]
Yr oedd Cymru, hithau, erbyn hyn yn dechreu manteisio ar y deffroad. Yr oedd llu o Gymry, heblaw Roger Williams, ymhlith y gwroniaid a sefydlasant Loegr Newydd yn America. Yr oedd llawer, hefyd, er wedi aros yn yr Hen Wlad—fel y daeth Cymru i gael ei galw o hynny allan—wedi eu trwytho ag egwyddorion Puritaniaeth, er nad oedd hynny agos mor gyffredin yng Nghymru ag ydoedd yn Lloegr. Ond yr Archesgob Laud a blannodd Ymneillduaeth yng Nghymru. oedd Llyfr y Chwareuon wedi mynd i raddau pell yn anghof yn y wlad, ond yn 1633 mynnodd Laud ei ail sefydlu. Erbyn hynny yr oedd, hyd yn oed yng Nghymru, rai offeiriaid yn meddu argyhoeddiadau digon cryfion i wrthod plygu glîn i Baal y Chwareuon. Yn eu plith ceir William Wroth o Lanfaches; William Erbury, ficer Eglwys Fair yng Nghaerdydd, a'i giwrad Walter Cradoc; Marmaduke Matthews, ficer Penmain; a Robert Powel, ficer Llangatwg, ger Castellnedd. Nid oes hanes fod neb mor gydwybodol a hyn yng Ngogledd Cymru y pryd hwnnw. Trowyd y rhai hyn allan o'u bywiolaethau. Ond ni fynnai eu cynulleidfaoedd golli eu gwasanaeth. Ffurfiwyd Eglwysi Ymneillduol yn y cymydogaethau hynny. Y gyntaf o honynt, i gymeryd ffurf Eglwys Ymneillduol, oedd eiddo Llanfaches; ac yma, yn 1639, y sefydlwyd yr Eglwys Anibynnol[2] gyntaf yng Nghymru.
Nodiadau
- ↑ Crosby, vol. i., pp. 147—149. Ond mae profion diamheuol o fodolaeth cynulleidfaoedd Bedyddiedig yn Lloegr o leiaf gwarter canrif cyn hyn.
- ↑ Mae cywirdeb hanesyddol yn hawlio dweyd tri pheth mewn cysylltiad a'r eglwys hon, sef (1) Fod ynddi, fel yn Eglwys "Anibynnol" Mr. Jacob (gwel tudal 70) nifer o "Fedyddwyr yn aelodau. (2) Fod y Bedyddwyr yn Eglwys Llanfaches, fel yn Eglwys Mr. Jacob yn Southwark, ymhen rhai blynyddau wedi gofyn am, a chael gollyngdod brawdol, i ffurfio Eglwys Fedyddiedig, ar ol bod yn cyd-addoli dros ugain mlynedd. (3) Fod Eglwys Llanfaches, fel Eglwys Southwark, wedi dod i gael ei hystyried fel yn perthyn i'r Enwad Anibynnol. Sylwer ar y cyfatebiaeth felly rhwng yr Eglwys "Anibynnol" gyntaf yn Lloegr, a'r un gyntaf yng Nghymru.