swyddi Henffordd a Brycheiniog, ac yn Ilston yn ymyl Abertawe, yn fuan iawn ar ol hyn; gwn hefyd na fu'r Anibynwyr yn hir cyn sefydlu achosion yn Penmain, Caerdydd, Abertawe, Merthyr, a lleoedd eraill. Ca y rhai hyn sylw yn y man. Ond yr hyn wyf am ddangos ar hyn o bryd yw, mai goleuni'r cyfddydd, yn coroni pennau'r mynyddoedd â harddwch ydoedd, ac nid llawn oleuni'r haul yn golchi ac yn puro dyfnderoedd y dyffryndir. Daeth yr adeg i hynny hefyd gael ei wneud—ac yr oedd yr adeg honno lawn hanner canrif yn gynharach nag a fyn rhai haneswyr ini gredu.[1]
Fel y sylwyd o'r blaen pan yn ymdrin â chyfnod boreuach na hwn, cyd-deithiai arwyr rhyddid crefyddol a rhyddid gwladol ochr yn ochr. Danghoswyd, hefyd, yn y bennod ddiweddaf, pa fodd y mynnodd Iago annoeth gylymu buddiannau yr esgob wrth eiddo'r brenin, ac awdurdod yr Eglwys wrth orchymyn y Wladwriaeth. Bu farw Iago yn 1625, a'i fab Siarl I. a deyrnasodd yn ei le. Bedair blynedd wedyn, a deng mlynedd cyn sefydlu Eglwys Llanfaches, cododd gwr ieuanc i fyny i siarad am y tro cyntaf yn Nhy'r Cyffredin— a hwn oedd y gwr a ddeffrodd "Gydwybod Ymneillduol" y deyrnas yn effeithiol mewn perthynas â gwladweiniaeth yn. ogystal a chrefydd. Oliver Cromwell oedd ei enw. Trwyddo ef, a rhai o gyffelyb ysbryd a gydweithient ag ef, y darostyngwyd balchder y brenin, y llyfetheiriwyd trahausder yr Eglwys, yr amlygwyd nerth yr egwyddor Buritanaidd, ac y mynnwyd am y tro cyntaf erioed eu hawliau i'r werin yn wladol a chrefyddol. Ymdrinir â hyn ymhellach yn y bennod nesaf.
Yn fuan wedi sefydlu yr eglwys yn Llanfaches, torrodd y Rhyfel Cartrefol allan, y rhyfel a wnaeth i Siarl anffodus golli ei ben yn ogystal a'i goron; ac a wnaeth Cromwell yn
- ↑ Anghytunaf ar y naill law â'r rhai a ddywedant fod Cymru wedi cael ei hefengyleiddio'n dra chyffredinol yn nyddiau Cromwell; ac ar y llaw arall â'r sawl a haerant mai pobl yn rhodio yn y tywyllwch oedd Cenedl y Cymry hyd nes i'r hyn a elwir "Y Diwygiad Methodistaidd " dorri allan yn nyddiau Howell Harris. Gosodaf fi gyfnod goleuo Cymru yn agos i'r canol rhwng y ddau amseriad yna. Ceir profion yn nes ymlaen.—B. G. E.