Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Diwygwyr Cymru.djvu/94

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Buritaniaeth o dan y Tuduriaid. Rhoddodd Iago y Beibl i'r Bobl—a chafodd gyffelyb effaith ar eu gwleidyddiaeth hwy, ag a gafodd ar grefydd y Puritaniaid.[1][2] Yr oedd gwladgarwch yr oes honno yn bur, am ei fod wedi cael ei ysbrydoli gan ddysgeidiaeth y Beibl—a'r gwladgarwch sy'n seiliedig ar, ac a ysbrydolir gan y Beibl, a faidd yn oreu sefyll i fyny dros hawliau dyn gan nad beth a fyddo'r canlyniadau. Cofier fod Beibl Iago yn dod i Saeson yr oes honno fel datguddiad newydd. Pe gallem feddwl am Gymru fel y mae heddyw,—oddigerth ei meddiant o'r Beibl a'r capeli; pob addoliad yn cael ei gario ymlaen yn yr Eglwysi plwyfol yn unig, a dim Beibl ond yn yr Eglwys; ac yna fod y wlad yn cael ei llenwi ar unwaith â Beiblau, caem syniad cywirach am ddylanwad anesgrifiadwy lledaeniad cyffredinol Beibl Iago drwy'r wlad. Daeth i lu yn yr oes honno fel datguddiad newydd, yn cynnwys dysgeidiaeth newydd, ac yn rhoddi goleuni ac ysbrydoliaeth newydd. Pa ryfedd fod Duw a'r Diafol i'r Puritaniaid hynny, yn bersonoliaethau sylweddol, a allent fod yn bresennol gyda hwynt, a bod milwyr Cromwell yn mynd i'r frwydr dan ganu Salmau, ac mor gryf yn eu hyder ym mhresenoldeb Duw gyda hwynt, ag oedd Joshua gynt pan orchymynnodd i'r haul i aros yn Gibeon, a'r lleuad yn nyffryn Ajalon? Y ffydd bersonol, weithredol, hon, yn yr Arglwydd, yw un o nodweddion amlycaf crefydd gwroniaid y cyfnod hwn.

Yn awr gosoder y ddau allu gwrthgyferbyniol hyn wyneb yn wyneb â'u gilydd, y Brenin a'i gredo am Hawl Dwyfol, a'r Deiliaid a'u Beibl newydd yn rhoi iddynt ffydd mewn Presenoldeb Dwyfol gyda'i bobl,—ac nid oes angen dweyd beth raid fod y canlyniad. Nid yn sydyn y daeth y cyfnewidiad. Mor raddol ag yr ymneillduasant o'r Eglwys, yr ymbellhaodd y Puritaniaid oddiwrth eu teyrngarwch i'r Orsedd. Pan esgynnodd Iago i'r Orsedd nid oedd o fewn y deyrnas

  1. "Daeth Lloegr yn wlad un llyfr—a'r llyfr hwnnw oedd y Beibl. Dyma'r un llyfr mawr y gwyddai pob Sais ei gynnwys; darllenwyd ef yn yr Eglwysi, darllenwyd ef yn y tai gartref; ac ym mhob man syrthiai ei eiriau ar glustiau nad oeddent wedi cael eu caledu i'w grym a'u prydferthwch, a chynheuodd frwdfrydedd cyffrous."—GREEN.
  2. "Daeth Lloegr yn wlad un llyfr—a'r llyfr hwnnw oedd y Beibl. Dyma'r un llyfr mawr y gwyddai pob Sais ei gynnwys; darllenwyd ef yn yr Eglwysi, darllenwyd ef yn y tai gartref; ac ym mhob man syrthiai ei eiriau ar glustiau nad oeddent wedi cael eu caledu i'w grym a'u prydferthwch, a chynheuodd frwdfrydedd cyffrous."—GREEN.