neb mwy teyrngarol na'r Puritaniaid.[1] Ffolineb Iago yn eu galw yn wrthryfelwyr, a'u trin fel gwrthryfelwyr, a'u gwnaeth yn wrthryfelwyr. Cyflwynodd Senedd gyntaf Iago "Wrthdystiad" cryf yn erbyn y llygriadau oedd eisoes yn dechreu llithro i fewn i'r Sefydliad Eglwysig, ac i'r Cyfansoddiad Gwladol.[2] "Fel y mae Duw i'm barnu!" llefai'r brenin pan dderbyniodd y Gwrthdystiad, "gwell fyddai gennyf fyw fel meudwy, na bod yn frenin ar y fath giwaid o Buritaniaid ag sy'n rheoli Ty'r Cyffredin!"[3] Ond os cryf Senedd gyntaf Iago, cryfach yr äi bob Senedd ar ol hynny. Gwrthwynebent yn gadarnach fyth, flwyddyn ar ol blwyddyn, bob trawsfeddiant o awdurdod o eiddo'r brenin a'r Eglwys. Yn y naill etholiad ar ol y llall cryfach, gryfach yr äi plaid y Gwladgarwyr, a gwannach, wannach yr äi plaid y Brenhinwyr yn Nhy'r Cyffredin. Ac eto ymhob dim gofalent weithredu yn gyfansoddiadol.[4] Nis gallwn lai na rhyfeddu at yr hir amynedd a ddanghoswyd gan y wlad a'i chynrychiolwyr, tra yn dal yn gadarn, ïe, yn gyndyn, wrth eu hawliau.
Eithr nid felly'r brenin. Bu Iago saith mlynedd heb Senedd, a Siarl un-flynedd-ar-ddeg. Gallasai Elizabeth fod wedi fforddio byw heb Senedd yn well na hwynt, canys yr oedd hi wedi cynhilo digon o arian fel y gallai, petai angen hynny, gario'r gwaith ymlaen heb arian y wlad. Ond nid felly Iago na Siarl. Afradlon oedd y ddau ar eu harian—er y gallai Iago fod yn gybydd mewn pethau bychain. A dyma'r afael uchaf gyntaf gafodd Ty'r Cyffredin yn yr ymgodymu â'r Orsedd. Eu hateb i bob cais am arian oedd: "Dim diwygiad—dim arian." Cymerer dwy engraifft hanesyddol er dangos y gwrth-
- ↑ Dyma dystiolaeth Archesgob Efrog am danynt:—"Am y Puritaniaid, er nad wyf yn hoffi eu zel ddallbleidiol, er eu bod yn gwahaniaethu oddi-wrthym mewn seremonïau ac allanolion, eto cytunant â ni mewn hanfodion crefydd, a chredaf eu bod oll, neu y mwyafrif o honynt, yn caru'r brenin a'r wladwriaeth bresennol." (Record Office MSS. Dom. Sêr., ii. 40.)
- ↑ Record Office. Dom. Series, Vol. viii., No. 70.
- ↑ Hallam's Const. Hist., i. 331—2.
- ↑ Clarendon's History, i. 8—9.