gyferbyniad rhwng ymddygiad gwallgof, anghyfansoddiadol y Brenin, ac ymddygiad penderfynnol ond hollol gyfansoddiadol Ty'r Cyffredin.
Er mwyn gosod atalfa ar yr arferiad anghyfansoddiadol o godi trethi heb ganiatad y Senedd, cyflwynodd Ty'r Cyffredin yn 1628 "Ddeiseb Iawnderau" (The Petition of Right) i'r Brenin. Hawlid yn hwn:
i. Nad oedd neb i gael ei orfodi i dalu treth heb gydsyniad y Senedd.
ii. Nad oedd neb o'r deiliaid i gael eu carcharu heb ddangos yr achos.
iii. Nad oedd neb yn groes i'w hewyllys i gael eu gorfodi i letya milwyr.
iv. Nad oedd neb mewn amser heddwch i gael ei brofi wrth ddeddf fllwrol.
Cydsyniodd y Brenin—a phleidleisiodd y Senedd iddo 400,000p. Ond wedi cael yr arian i'w law, torrodd Siarl ei addewid. Pan gyfarfyddodd y Senedd yn 1629, galwodd Syr John Elliott sylw at y modd yr oedd Deiseb Iawnderau wedi cael ei throseddu—ac ymosododd ar Laud, Esgob Llundain ar y pryd, ond wedi hynny Archesgob Caergaint. Pan ddaeth y peth i bleidlais, dywedodd y Llefarydd—Syr John Finch, cynffonnwr i'r brenin—ei fod wedi cael gorchymyn y brenin i ohirio'r Ty. Pe y gwneid hynny nis gallai'r Ty basio dim. Pe'r ymneillduai'r Llefarydd nis gallai'r Ty wneud dim. Cymerwyd mesurau cryfion ond effeithiol i sicrhau fod y bleidlais yn cael ei chymeryd. Clowyd drysau'r Ty. Ymaflodd dau o'r Aelodau yn y Llefarydd gan ei ddal yn y gadair ar waethaf ei ddagrau. Yna darllenwyd gwrthdystiad ffurfiol, yn mynegu y cyfrifid fel gelyn i'r Wladwriaeth y neb a gynghorai dalu, neu a dalai yn wirfoddol, unrhyw arian i'r brenin heb gydsyniad y Senedd. Gyrrodd y brenin am ringyll y Ty; rhwystrwyd ef i fynd; gyrrwyd rhingyll Ty'r Arglwyddi atynt—ond ni chai ddod i fewn; yna gorchymyn—nwyd i'r milwyr fynd a thorri'r drysau. Carcharwyd Elliott ac Aelodau eraill a bu Elliott farw yngharchar. Yn y Senedd dymor cynhyrfus hwn y siaradodd Oliver Cromwell gyntaf—paratoad teilwng i'r gwaith mawr i'r hwn y'i galwyd wedyn.
Deuddeng mlynedd wedi hyn pasiodd Ty'r Cyffredin "Y Gwrthdystiad Mawr" (The Grand Remonstrance) yn nodi rhestr faith o weithredoedd anghyfansoddiadol y brenin. Aeth y brenin a thri chant o wyr arfog wrth ei gefn i Dy'r Cyffredin i ddal arweinwyr y Gwladgarwyr—ond ni chafodd hwynt. Ymneillduodd y brenin o Lundain, a chododd ei faner yn Rhydychain. Pan ddaeth yn ol i Lundain, fel carcharor y daeth—ac i'r dienyddle yr arweiniwyd ef.
Rhaid cofio fod cenhedlaeth gyfan wedi dioddef gormes anghyfansoddiadol am yn agos i ddeng mlynedd ar hugain, cyn i'r rhwyg mawr gymeryd lle. Cyfeiriwyd droion at y rhan a