Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Diwygwyr Cymru.djvu/97

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

chwareuodd yr Eglwys yn yr helyntion hyn. Symbylydd mawr polisi Eglwysig Siarl oedd Laud,—gynt Esgob Ty Ddewi, wedi hynny Esgob Llundain, ac yn olaf Archesgob Caergaint. Credai Laud mor ddiysgog yn anffaeledigrwydd Yr Eglwys, ag y credai'r brenin yn anffaeledigrwydd Y Teyrn. "Pab Caergaint" y gelwid ef gan y Puritaniaid. Yr oedd yn Babydd ymhopeth ond enw. Cyn ei amser ef safai Bwrdd y Cymun ynghanol yr Eglwys; mynnodd ef ei symud, a'i gosod fel allor yn erbyn mur dwyreiniol yr adeilad; ac, er mwyn cadw dwylaw anghysegredig rhag cyffwrdd â'r allor, gosodwyd canllaw o'i hamgylch. Prin y talai'r Iuddewon fwy o barch i Arch y Cyfamod, nag a fynnai Laud i'r Saeson dalu i'r allor ymhob Eglwys blwyfol. Dysgid hwynt hefyd i ymgrymu bob tro yr aent i fewn neu allan o'r Eglwysi. Cosbid hwynt os esgeulusent wneud.[1] Cyfarwyddid hwynt i foesgrymu i'r allor. "Dyma," ebe'r Archesgob, "yw'r unig fan ar y ddaear lle y preswylia Duw.[2] Gyda hyn mynnai i bawb dalu gwarogaeth i'r clerigwyr, y rhai a fynnent gael eu galw yn "offeiriaid." Gwelir ei fod yn gofalu am y tu allan i'r cwpan a'r ddysgl. Hyn oedd prydferthwch santeiddrwydd yn ei olwg ef.[3] Yn hollol gyd-wybodol yn yr hyn a gredai, mynnai i bawb blygu i awdurdod anffaeledig yr Eglwys. Cosbid yn dost y rhai ni phlygent.

I ddianc rhag yr ormes hon ffodd miloedd o ddynion goreu'r wlad dros y môr.[4] Tybir fod pedair mil wedi croesi'r Werydd. Ond nid oedd hyn yn cydfyned â dymuniadau Laud. Rhoddwyd gorchymyn allan nad oedd neb i ymfudo heb gennad y brenin. Dygodd y gorchymyn hwn ei gosb i'r gorchymynnwr

  1. Dirwywyd dynion am beidio ymgrymu i'r arwyddluniau Pabyddol
  2. Hist. of Dissenters, Vol. i., p. 63
  3. Pan o flaen ei farnwyr yn cael ei brofi am ei fywyd, dywedodd Laud: "Er pan osodwyd fi mewn swydd ni lafuriais am ddim yn fwy nag er mwyn cadw i fyny allanolion crefydd gyhoeddus, yr hyn a esgeulusir yn ormodol yn y deyrnas hon. Mae yr esgeulusdod hwn wedi taflu dwfr oer ar wir addoliad mewnol, a thra byddom yn y corff mae'r addoliad hwnnw yn galw am gymorth allanolion i'w gadw yn fyw."
  4. Croesodd miloedd o ysgolheigion, masnachwyr, cyfreithwyr, ac amaethwyr goreu'r deyrnas y Werydd i chwilio am ryddid a phurdeb crefydd yn yr anialwch."—GREEN.