Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Diwygwyr Cymru.djvu/99

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

I gosbi'r Diwygwyr am hyn, ymgadwodd yr Esgobion o Dy'r Arglwyddi am dro, ar y tir fod agwedd y werin-bobl mor fygythiol fel na feiddient fynd i'r Senedd. Ni fuasai eu habsenoldeb yn blino'r Diwygwyr ond pan aeth yr Esgobion ymhellach, gan yrru gwrthdystiad yn erbyn cyfreithlonrwydd unrhyw ddeddf neu benderfyniad a basid yn eu habsenoldeb hwy, cododd y teimlad yn uwch yn eu herbyn. Taflwyd Laud i'r carchar, ar y cyhuddiad o deyrnfradwriaeth; cyhuddwyd dwsin o Esgobion o'r un trosedd. Ansefydlog yn ei benderfyniad, anffyddlon i'w air, anheyrngar i'w gyfaill, caniataodd Siarl dorri pen Laud. Ychydig wythnosau cyn croesi o'r Brenhinwyr a'r Gwladgarwyr gleddyfau ar faes y gwaed, gyrrodd Senedd Lloegr at Senedd Ysgotland, yn mynegu eu penderfyniad i ddileu esgobyddiaeth, "yn gymaint a bod hir brofiad yn dangos fod y gyfundrefn honno yn rhwystr mawr i berffaith ddiwygiad a chynnydd crefydd, ac yn dra niweidiol i wladwriaeth a llywodraeth y deyrnas."[1] Yna cymerodd mewn llaw ddiwygio'r gwasanaeth crefyddol. Symudwyd yr allor o'i safle ddwyreiniol yn yr eglwysi, a gwnaed hi drachefn yn Fwrdd y Cymun; gorchymynnwyd roi heibio'r croesau, y delwau, a'r darluniau Pabyddol; gwaherddid gosod canhwyllau ar Fwrdd y Cymun; dilewyd chwareuon ar y Sul; cymhellid cynal oedfaon pregethu brydnawn Suliau; anogid plwyfi'r deyrnas i benodi "darlithydd" i bregethu ar y Sul ac unwaith yn yr wythnos, ac i'w gynnal drwy roddion gwirfoddol. Dyma sylweddoli breuddwyd John Penry dri-ugain mlynedd cyn hynny! A dyma gydnabyddiaeth ffurfiol a swyddogol i'r egwyddor wirfoddol mewn crefydd.

Dyma, ynte, ddau chwyldroad, y naill yn y Wladwriaeth, a'r llall yn yr Eglwys. Yr un egwyddor a ysbrydolai'r ddau—dyhead am ryddid. Dyma'r Brenin, a'i syniadau am Hawl Dwyfol, ar ffo; dyma'r Esgob, a'i uchelgais am awdurdod i'r Eglwys, wedi cael ei ddiswyddo; dyma'r Gwladgarwr yn

  1. Parl. History, ii. 822.