Troer heibio'r lleibio i gyd,
A chladder y genfigen,
Fel adlewyrcho fwy o'r byd
Ysbrydol ar ei pherchen;
Os byw i Grist, byw iddo'n llwyr,
Ac nid i wrachaidd chwedlau,
Fel gallwn farw pan ddêl hwyr
Mewn bedd ar randir angau.[1]
'ROEDD GWIBER YN Y NYTH.
Mi gerais eneth landeg,
A hi yn ugain oed,
Un ddêl, a ffel, mor bêr ei chân
Ar fwyalch yn y coed;
Hi feddai lygaid serchog,
A chorph gwir luniaidd syth,
Ychydig wyddwn i er hyn
Fod gwiber yn y nŷth.
Di—brisais gyfleusderau,
I wneyd daioni mwy,
A rhoddais frâth i galon un
Oedd eisoes dan ei chlwy';
Yn mlaen y mynwn fyned
Er cael y fun ddi-lyth,
Ychydig wyddwn i er hyn
Fod gwiber yn y nŷth.
Edrychai mor ddiniwed
A'r wawr pan nad yw'n brudd,
Heb arlliw o gasineb
I'w ganfod ar ei grudd;
Blodeuog oedd ei bywyd
Fel sêr y nef ddi-lyth,
Ychydig wyddwn i er hyn
Fod gwiber yn y nŷth.
- ↑ Nid oes gyfeiriad, at neb rhyw wrthddrych arbenig yn y gân hon, fel y tybia rhai.—YR AWDWR.