RHAGAIR.
YN ei ragymadrodd i'w lyfr, "Enoc Huws," fe sylwa Daniel Owen ar y datblygiad amlwg nodweddai lenyddiaeth Gymreig yr hanner can mlynedd blaenorol ; yr oedd yn uwch ei safon ac yn llawer mwy toreithiog. Erbyn heddyw, y mae yna feusydd newyddion wedi eu hennill i'n llenyddiaeth, a'r olaf ar un cyfrif ydyw maes y ddrama. Erys cymaint o newydd-deb ynglŷn â hwn fel y petrusa rhywrai ei gydnabod, a sibrydir mai nid arwydd o ddatblygiad ydyw, yn hytrach i'r gwrthwyneb.
Credwn ei bod yn rhy gynnar eto i basio unrhyw farn derfynol ar y ddrama, gan mai yn awr y ca ei chydnabod gennym. Onid oes gan y ddrama ei chenhadaeth atom fel cenedl ? Ai nid arwydd ydyw fod Cymru yn chwilio am ei delfrydau ? Fe orwedd yna haenau o wirionedd mewn chwedloniaeth bur grea angen am eu dwyn i sylw, a'u hargraffu ar feddyliau gwerin ein gwlad. Nid oes angen ar i Gymru fod yn llai moesol a chrefyddol drwy agor ei drws i'r ddrama, gan mai gwirionedd ac nid ffug orwedd yn sylfaen i'r cyfan. Nid dwyn y chwareudy i gynteddoedd cysegr yr Arglwydd amcenir, yn hytrach codi chwaeth ein pobl at y pur a'r dyrchafol.
Hyn, yn ddiameu, gymhellodd fy nghyfeillion i drefnu "Drama Enoc Huws." Wedi darllen y llyfr hwn yn fanwl, a'i weld yn cael ei bortreadu ar y llwyfan, gallaf ei gyflwyno yn y modd cynhesaf i sylw pobl ieuainc Cymru. Nid oes yma ddim yn ymylu at fod yn ddi-chwaeth, ond yn ffyddlon i