Prawfddarllenwyd y dudalen hon
DRAMA:
ENOC HUWS
ACT I.
GOLYGFA 1.—YSTAFELL YN NHYNYRARDD.
- (CAPTEN TREFOR yn eistedd wrth y bwrdd, yn ysgrifennu, ei ben yn gorffwys ar ei law chwith, a'i bin ysgrifennu yn ei law dde. Yn sydyn, rhydd heibio ysgrifennu ac ymddengys mewn penbleth mawr. Yn ei ymyl y mae gwydr a photelaid o "Scotch Whisky," o'r hon у суmеr у CAPTEN lawer dracht. Wrth ben arall y bwrdd eistedda MRS. TREFOR yn gwnio. Mewn cadair esmwyth wrth y tân eistedda MISS. TREFOR yn diwyd weithio rhyw gywreinwaith gyda darn bychan o Ivory" ac edafedd wen. Sylwa MRS. a MISS. TREFOR nad oedd y CAPTEN yn ysgrifennu, ac amneidia y naill ar y llall. Yn ddisymwth, teifl y CAPTEN ei ysgrifbin ar y bwrdd, cwyd ar ei draed, a cherdda yn ol a blaen. Edrycha y fam a'r ferch arno yn frawychus. Meddai'r CAPTEN mewn llais cynhyrfus, gan daro y bwrdd)—
CAPTEN TREFOR.—"Fedra i ddim ysgrifennu, a threia i ddim chwaith, 'rwyf wedi blino a glân ddiflasu ar y gwaith, byth na symudo i!"
SUSI.—"Tada, ga i ysgrifennu yn eich lle chi?"
CAPTEN TREFOR.—"Cei, cei, os medri di ddweyd mwy o gelwyddau na fi."
SUSI."—The idea, dada!"
CAPTEN TREFOR.—"The idea, faw! be wyddoch chi am yr helynt yr ydw i ynddo o hyd yn ceisio cadw pethau i fynd ymlaen? Be'sy' gynnoch chi eich dwy i feddwl am dano heblaw sut i rifflio arian i ffwrdd, a sut i wisgo am y