Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Drama Enoc Huws.djvu/19

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

SUSI.—"Tada, gobeithio nad ydech chi ddim yn mynd i sôn am fusnes, am syndicate, a Board of Directors, a geology, a phethe felly, achos mi wyddoch na dda gan 'y mam a finne mo bethe felly."

CAPTEN TREFOR.—"Efo'ch mam yr ydw i'n siarad, Susi. Sarah, wnewch chi wrando arna i?"

MRS. TREFOR.—"Os gwnewch chi siarad fel rhw ddyn arall, a pheidio colli'ch tempar." (Yn sychu ei llygaid ac yn ail ddechreu gwnio).

CAPTEN TREFOR.—"Wel, mi dreiaf. Chwi wyddoch, Sarah, fy mod mewn cysylltiad â gwaith Pwllygwynt ers blynyddoedd. Y fi fu yn offeryn i gychwyn y gwaith, y fi, gyda un arall, a ffurfiodd y cwmpeini. Ac y mae yn rhaid i bawb gyfaddef fod ugeiniau o deuluoedd wedi cael cynhaliaeth oddiwrth y gwaith, ac fod y gwaith wedi bod yn help mawr i gario achos crefydd yn ei flaen yn y gymdogaeth. Rhaid i chwithau, Sarah, gydnabod na fuoch yn brin o gysuron bywyd, nac o foddion gras. Yr ydym fel teulu wedi codi ein hunain, ac edrychir arnom yn lled barchus. Mi wyddoch pa fath dŷ oedd gennym cyn hynny. Nid tŷ a stabal a couch—house oedd o, aie? Nid yr un un oeddwn innau yr adeg honno ag ydw i heddyw. Nid yr un un oedd Richard Trefor, Williams' Court, a Capten Trefor, Tynyrardd. Yr oedd gan Richard Trefor, pan yn eistedd ar y fainc yn y capel, dipyn o gydwybod,—yr oedd yn cael tipyn o flas ar • foddion gras. Faint o flas sydd gan Capten Trefor ar yr Efengyl yn y sêt a'r glustog arni? Ddaeth o 'rioed i'ch meddwl chwi, Sarah, faint a gostiodd i Richard Trefor ddyfod yn Capten Trefor? Mi wn fy mod wedi cadw y cwbl oddiwrthych chwi ar hyd y blynyddoedd, rhag eich blino. Yr oeddwn ar fai. Ond fedra' i mo'i gadw yn hwy. 'Does dim ond dinystr yn ein haros." (Yn cymeryd dogn cryf o'r "Scotch Whisky," yn eistedd i lawr, yn tanio "cigar" ac yn dechreu ysmocio).

Y CAPTEN eto.— "Pan gychwynais Bwllygwynt, mae'r nefoedd yn gwybod fy mod yn gobeithio iddo droi allan yn dda, ac yr oedd y miners mwyaf profiadol yn credu y gwnai. Yr oedd yn y gwaith 'olwg'ragorol. Ni chefais unrhyw anhawster i ffurfio cwmpeini. Gyda chymorth Mr. Fox o Lunden, fe ddarfu i ni berswadio llawer o bobl arianog i ymuno â'r cwmpeini, a chwi wyddoch,