Sarah, fel y darfu i amryw o'n cymdogion, megis Hugh Bryan ac ereill, dlodi eu hunain er mwyn cael shares yn y gwaith, ac yr oeddwn innau yn rhoi ar ddeall iddynt fy mod yn gwneud ffafr a hwynt drwy adael iddynt gael shares am unrhyw bris. Ffurfiwyd cwmpeini cryf, a thalwyd i lawr filoedd o bunnau. Fe ddarfu i ni ei wneud yn point i beidio agor ond can lleied ag a fedrem ar y gwaith rhag i'w dlodi ddod i'r golwg, a chymerwyd gofal i wario cymaint o arian ag a fedrem ar y lan mewn buildings a machinery, ac yn y blaen. (Yn cymeryd dracht o Whisky.) Ydach chi yn 'y n'allt i, Sarah ? Mi wn wnewch chi mo fy nghrogi i. Pan gaem bob sicrwydd fod tipyn o blwm mewn rhan o'r gwaith, fe fyddem yn gadael llonydd iddo fel arian yn y banc, ac yn ei gadw nes byddai y cwmpeini ymron torri ei galon, a phan ddeallem eu bod ar fedr rhoi y gwaith i fyny, fe fyddem ninnau yn mynd i'r banc ac yn codi digon o blwm i roi ysbryd newydd ynddynt i fynd ymlaen am spel wedyn. Wedi eu cael i ysbryd reit dda, fe fyddem yn ail ddechreu cynilo, felly o hyd, ac felly o hyd, ar hyd / blynyddoedd, a minnau yn gorfod reportio fel hyn a reportio fel arall,—dyfeisio y celwydd yma un wythnos a'r celwydd arall yr wythnos wedyn, er mwyn cadw pethau i fynd ymlaen, nes yr ydw i wedi mynd heb yr un celwydd newydd i'w ddweyd, a thâl i mi ddim fynd dros yr hen rai, achos y mae y cwmpeini yn eu cofio yn rhy dda. Mae y shareholders trymaf wedi glân ddiflasu a chynddeiriogi, ac wedi penderfynu nad ant gam ymhellach."
MRS. TREFOR.—"Wel, Richard, ydach chi ddim yn deyd nad oes yna blwm ym Mhwllygwynt ? Mi'ch clywes yn deyd gantoedd o weithiau wrth Mr. Denman fod yno wlad o blwm, ac y byddech yn sicr o ddod ato ryw ddiwrnod."
CAPTEN TREFOR.—"Rhyngoch chwi a fi, Sarah, mi gymraf fy llw nad oes ym Mhwllygwynt ddim llond fy het i o blwm. Ond wneiff hi mo'r tro, wyddoch, i bawb gael gwybod hynny. Dydio fawr o bwys am bobl Llunden, ond y mae'n ddrwg gen i dros Denman. Mae o'n gymydog, ac wedi tlodi ei hun yn dôst. Yn wir, mae gen i ofn y bydd Denman can dloted a finnau rai o'r dyddiau nesaf yma."