Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Drama Enoc Huws.djvu/21

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

MRS. TREFOR (mewn dychryn mawr)—"Can dloted a chithe, Richard? Ydach chi ddim yn deyd y'ch bod chi yn dlawd?"

CAPTEN TREFOR.—"Can dloted, Sarah, a llygoden eglwys, ond just yn unig y pethau a welwch o'ch cwmpas. Yr oeddwn yn ofni eich bod chwi a Susi (Yn edrych ar SUSI, SUSI wedi syrthio i gysgu). Susi! sut y medrwch chi gysgu tra mae'ch mam a finnau yn son am ein hamgylchiadau ?"

SUSI (yn rhwbio ei llygaid). "Mi wyddoch, tada, na dda gen i ddim clywed son am fusnes."

CAPTEN TREFOR (yn gyffrous).— "Fe fydd raid i chwi, fy ngeneth, ymorol am fusnes i chwi eich hun rai o'r dyddiau nesaf. Ie, Sarah, yr oeddwn yn ofni eich bod chwi a Susi yn byw mewn fool's paradise. Yr ydym yn dlawd, dalltwch y fact yna. Mae dialedd o arian wedi mynd trwy fy nwylaw; ond 'does dim bendith wedi bod arnynt, maent wedi mynd i rywle, a chwi wyddoch eich dwy lle mae llawer ohonynt wed imynd. Waeth i ni edrych y ffaith yn ei gwyneb,—yr ydym yn dlawd, ac fe fydd Pwllygwynt a'i ben ynddo cyn pen mis."

SUSI.—"O mam!"

CAPTEN TREFOR (mewn llais uchel a chynhyrfus).—"Mamiwch chi fel y mynnoch, a rhyngoch chi a fi, miss, fe ddylech chi fod yn fam eich hun cyn hyn, yn lle rhoi rhyw airs i chi eich hunan. Rhaid i chi ddyfod i lawr beg neu ddau a chymeryd rhywun y gellwch gael gafael arno, pe na byddai ond miner cyffredin."

SUSI—"The idea, tada!"

CAPTEN TREFOR.—"The idea 'r felldith! ydach chi ddim yn rialeisio eich sefyllfa? Oes dim posib pwnio dim yn y byd i'ch pen chwiban chwi?"

MRS. TREFOR.—"Richard, cedwch eich tempar. Os dyna ydi ein sefyllfa, os tlawd yden ni, ar ol yr holl flynyddoedd o gario ymlaen, be ydach chi'n feddwl neud?"

CAPTEN TREFOR.—"Dyna chi, yrwan, Sarah, yn siarad fel gwraig synwyrol. Dyna ydyw y cwestiwn, Sarah. Wel, dyna ydyw fy mwriad, cadw i fyny yr appearance cyd ag y medraf, a dechreu gwaith newydd gynted ag y gallaf. (Curo wrth y drws. Yn mynd i edrych pwy